Rheolwr Perfformiad Elit Chwaraeon Cymru Brian Davies
Mae’r byd rygbi yng Nghymru wedi bod yn y penawdau am y rhesymau anghywir yr wythnos hon ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod gan y gamp broblem â chyffuriau.
Cafodd dau chwaraewr rygbi lled broffesiynol o dde Cymru eu gwahardd yn ddiweddar ar ôl i brofion ganfod cyffuriau oedd wedi’u gwahardd yn eu system.
Mewn cyfweliad â Golwg yr wythnos hon dywedodd arbenigwr mewn chwaraeon moeseg bod cyffuriau o fewn rygbi yn gallu bod yn “gyfrinach agored” rhwng chwaraewyr a hyd yn oed hyfforddwyr.
Dywedodd UK Anti-Doping, y corff sydd yn gyfrifol am brofi athletwyr, nad oedd ganddyn nhw’r adnoddau i gynnal profion ar hap ar chwaraewyr rygbi amatur a lled-broffesiynol a’u bod yn gwneud hynny’n seiliedig ar wybodaeth benodol maen nhw’n ei dderbyn.
Ac mewn arolwg o 100 o chwaraewyr gafodd ei chynnal mewn rhaglen Week In Week Out yn edrych ar y sefyllfa, dywedodd 15% o chwaraewyr rygbi eu bod wedi cymryd cyffuriau gyda thua hanner yn nabod rhywun oedd wedi gwneud.
Bu Golwg360 yn sgwrsio â Rheolwr Perfformiad Elit Chwaraeon Cymru Brian Davies, sydd yn gyn-chwaraewr rygbi, i holi beth oedd yn cael ei wneud i daclo problem cyffuriau o fewn chwaraeon yn y wlad.
Beth oedd eich ymateb chi i’r newyddion diweddaraf am ragor o chwaraewyr rygbi’n cael eu gwahardd?
Brian Davies: “Mae mor drist bod chwaraewyr o’r safon hynny’n teimlo bod rhaid iddyn nhw gymryd cyffuriau i wella naill ai eu golwg nhw neu’u perfformiad nhw.
“Ond mae’n arwydd dw i’n credu bod yna broblem llawer mwy eang na rygbi neu chwaraeon yn gyffredinol, bod problem cyffuriau yn gymdeithasol, bod diwylliant o gymryd pethau fel hyn yn y gampfa ac yn y blaen.
“Beth mae’r awdurdodau yn ei wneud yw taclo’r cyffuriau yna pan maen nhw’n dod i mewn i’r wlad, ac wedyn canolbwyntio ar daclo’r bobl sydd yn dosbarthu’r cyffuriau ar y we.
“Yn gyffredinol hefyd nid ar y lefel uchaf mae’r broblem ond ar y lefel isaf, ac mae hynny’n anodd i’r cyrff llywodraethol a Chwaraeon Cymru i ddod i afael ag e.
“Ond dyw e ddim yn esgus na ddylen ni wneud rhywbeth, a falle bod siawns ‘da ni nawr i wneud rhywbeth i wella addysg yn llawer mwy dwfn yn y system perfformio na jyst ar y lefel uchaf.
“Ni’n canolbwyntio yn bendant ar y foment ar addysgu athletwyr sydd yn llwyddiannus ac yn cymryd rhan ar y lefel uchaf, ond falle bod rhaid i ni wneud mwy nawr i wneud yn siŵr bod y wybodaeth ar gael ar bron bob lefel.”
A fyddai cynnal mwy o brofion ar hap ar gyfer chwaraewyr ar y lefelau is yn gwneud i’r rheiny sydd yn ystyried cymryd cyffuriau feddwl ddwywaith?
BD: “Na dw i ddim yn credu. Ar y lefel uchaf dyna beth sy’n digwydd, mae athletwyr ar y lefel uchaf yn gallu cael eu profi ar unrhyw bryd.
“Felly mae hynny’n gweithio ar y lefel uchaf, ond ar y lefel hyn ble mae’r profion diweddaraf wedi cael eu darganfod, dw i ddim yn credu wnaiff hwnna llawer a dyw’r adnoddau ddim yna i’w wneud e.
“Addysg [yw’r ateb], ac wedyn iddyn nhw gael gwybod os ydyn nhw’n prynu cyffuriau oddi ar y we, mwy na thebyg bydd y wybodaeth hynny’n cyrraedd yr awdurdodau ac yna fe fyddan nhw’n cael eu profi.
“Mae hwnna’n llawer gwell na phrofi nawr ac yn y man, profi gyda gwybodaeth arall. Beth ddylen ni wneud yw gwneud mwy o hynny a dysgu i’r athletwyr bod siawns dda eu bod nhw’n mynd i gael eu dal os ydyn nhw’n cymryd y pethau hyn, yn enwedig os ydyn nhw wedi prynu nhw oddi ar y we.”
Rydyn ni wedi clywed sawl un yn honni bod cyffuriau’n gallu bod yn ‘gyfrinach agored’ o fewn chwaraeon, a bod eraill fel arfer yn gwybod pwy sy’n eu cymryd. Yw hi’n bryd cosbi timau os yw eu chwaraewyr yn cael eu dal yn torri’r rheolau?
BD: “Fi’n deall y ddadl, ond mae’n rhaid i ni weithio o fewn côd WADA (World Anti-Doping Authority) felly dyw hynny ddim yn digwydd ar y foment.
“Ond mae pobl sydd yn helpu athletwyr, fel hyfforddwyr neu staff cynorthwyol fel meddygon neu wyddonwyr, yn cael eu cosbi os maen nhw’n cael eu dal yn helpu athletwyr, ac mae hynny’n rhywbeth newydd.
“Ond o ran cosbi’r tîm yn gyffredinol dyw hynny ddim yn y côd a byddai hynny’n broblem yn gyfreithiol.”
Oedd yr ystadegau yn rhaglen Week In Week Out yn awgrymu bod problem cyffuriau o fewn rygbi yn mynd yn llawer dyfnach nag y mae’r ffigyrau swyddogol yn ei awgrymu?
BD: “Mae’n rhaid bod yn garcus gydag astudiaethau fel yna. Byddai’n fwy o werth petai’n fwy gwyddonol a bod mwy o ffeithiau y tu ôl i’r ystadegau.
“Ond bydden i’n … ystyried bod y profion diweddaraf yma yn dangos bod pobl yn cymryd cyffuriau ar y lefel isaf ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth.
“Dw i ddim yn rhoi llawer o ystyriaeth i ystadegau Week In Week Out, mae gen i fwy o ddiddordeb yn ystadegau UKAD a WADA, ac mae hwnna’n dangos problem mae’n rhaid i ni ddelio ag e.”
Ydych chi’n poeni bod yna broblem cyffuriau mewn campau eraill oni bai am rygbi yng Nghymru?
BD: “Dw i ddim yn credu, ond eto i gyd dyw’r data ddim gen i i gynorthwyo hynny. Beth mae’n dangos i mi yw bod pobl yn defnyddio cyffuriau yn gymdeithasol, ac mae’r rhan fwyaf o’r rheiny yn chwarae rygbi a falle dy’n nhw ddim yn chwarae pêl-droed neu unrhyw gamp arall.
“Mae’n amlwg bod problem o fewn rygbi ond mae’r broblem hefyd o fewn cymdeithas yn gyffredinol.
“Dyna yw gwraidd y broblem, nid chwaraeon, ond bod pobl yn cymryd cyffuriau i edrych yn well, codi mwy o bwysau, ac mae astudiaethau yn dangos bod ardaloedd sydd â phroblemau cymdeithasol yn dangos lefelau uwch o bobl yn cymryd cyffuriau.
“Dw i ddim yn credu bod e’n broblem ar draws y campau i gyd, mae jyst yn ymddangos fel taw problem rygbi yw e, ond problem gymdeithasol yw e. Ond mae lle i chwaraeon trio newid hynny, a dyna’r peth positif i fi.”
Beth all rygbi ei wneud i daclo’r broblem gyffuriau sydd ganddyn nhw?
BD: “Mae’r Undeb [Rygbi Cymru] wedi gwneud lot o waith chwarae teg. Y neges iddyn nhw ac i ni fel Chwaraeon Cymru yw bod rhaid i ni wneud mwy yn is lawr y pyramid.
“Os wnawn ni hynny a defnyddio partneriaid hefyd fel y byrddau iechyd lleol, y Comisiynwyr Heddlu ac eraill, achos mae’n broblem gymhleth, falle bod siawns gyda ni i newid y diwylliant sy’n tyfu yn rhai o’n cymunedau ni.
“Fi’n trio’i wneud e’n bositif. Mae’n dangos bod rhaid i ni wneud rhywbeth, ond mae cyfle i ni wneud rhywbeth.”
Cyfweliad: Iolo Cheung