Joe Ledley a'i farf yn arwain y dawnsio wrth i Gymru ddathlu eu lle yn Ewro 2016 (luln: CBDC)
Fe fydd gan gefnogwyr Cymru sawl atgof cofiadwy o ymdrech llwyddiannus y tîm i gyrraedd Ewro 2016, o’r buddugoliaethau gwefreiddiol i goliau Gareth Bale, cap cyntaf Owain Fôn i ganu ar rai o strydoedd pellennig Ewrop.

Ond does dim amheuaeth mai un o ymddangosiadau mwyaf trawiadol yr ymgyrch oedd barf mawreddog y chwaraewr canol cae Joe Ledley – wel, hynny a’i ddawns arbennig wrth gwrs.

Cafodd cefnogwyr Cymru sydd yn hoff o gyfres gemau cyfrifiadurol FIFA ychydig o siom yn ddiweddar felly pan gafodd y gêm ddiweddaraf, FIFA 16, ei rhyddhau yn ddiweddar.

Oedd, roedd modd chwarae fe tîm Cymru, ond roedd un peth ar goll – y barf adnabyddus hwnnw ar wyneb Joe Ledley.

‘Deiseb y bobl’

Cafodd un cefnogwr ar Twitter – dim syndod mai ei enw yw @JoeLedleysBeard – ei siomi cymaint ei fod bellach wedi mynd ati i greu deiseb i ofyn i EA Sports, gwneuthurwyr y gêm, ychwanegu’r blewiach trawiadol.


Mae dros 100 o bobl eisoes wedi arwyddo’r ddeiseb ers iddo gael ei lansio ddoe, gydag ambell un hefyd yn galw ar y gwneuthurwyr i ychwanegu dawns enwog Ledley i’r dathliadau ar y gêm. Bydd rhaid aros i weld a fydd EA Sports yn gwrando ar yr alwad, ond does dim dwywaith bod ‘Joe Ledley’s Beard’ yn teimlo bod ganddo gefnogaeth eang.


Mae gan y ddeiseb ar farf Ledley sbel i fynd fodd bynnag nes iddo gyrraedd poblogrwydd deiseb arall sydd yn galw am well cydnabyddiaeth i Gymru ar gêm nesaf FIFA 17.

Mae dros 600 o bobl eisoes wedi galw ar EA Sports i gynnwys Uwch Gynghrair Cymru yn fersiwn nesaf eu gêm – pwy sydd eisiau chwarae fel Barcelona a Bayern Munich pan gewch chi fod yn Bala neu Bangor?