Fe fydd bachwr y Gleision, Matthew Rees yn darganfod ei dynged heddiw, wedi gael ei anfon o’r cae am sathru ar wrthwynebydd.
Derbyniodd Rees gerdyn coch am sathru ar ben wythwr Harlequins, Nick Easter yn ystod gornest yn y Cwpan Her.
Gallai Rees wynebu rhwng pythefnos a blwyddyn o waharddiad.
Mae hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson wedi amddiffyn Rees, gan ddweud nad oedd y digwyddiad yn un “maleisus”.
Yn ôl y rheolau presennol, byddai’n wynebu gwaharddiad o bythefnos os yw hynny’n wir, ond mae troseddau canolig yn arwain at waharddiad o bum wythnos a’r rhai mwyaf difrifol yn teilyngu gwaharddiad o naw i 52 wythnos.
Pat Barriscale o Iwerddon fydd yn arwain y panel disgyblu yn ystod y gwrandawiad yn Llundain.