Mae llai na hanner siaradwyr Cymraeg bellach yn dweud eu bod yn rhugl yn yr iaith, o’i gymharu â mwyafrif deng mlynedd yn ôl, yn ôl arolwg newydd sydd wedi’i chyhoeddi.

Ond fe arhosodd y niferoedd o siaradwyr rhugl yn weddol gyson, ac roedd 131,000 yn fwy o bobl yn dweud eu bod yn siarad ychydig o Gymraeg yn ôl yr arolwg  gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Dangosodd y ffigyrau bod nifer y siaradwyr rhugl wedi gostwng yn sawl un o gadarnleoedd yr iaith megis Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.

Ond roedd cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr rhugl mewn ardaloedd megis Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Canfyddiadau

Yn yr arolwg gafodd ei chynnal rhwng 2004 a 2006 roedd 57% o siaradwyr Cymraeg yn dweud eu bod yn rhugl, ond yn yr arolwg diweddaraf rhwng 2013 a 2015 roedd y canran wedi gostwng i 47%.

Roedd hynny oherwydd bod nifer y siaradwyr rhugl wedi aros yn gyson, tra bod y cynnydd mewn siaradwyr Cymraeg wedi bod ymysg y rheiny oedd ddim yn rhugl.

Rhwng y ddau arolwg fe gododd nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl o 317,300 i 318,800, cynnydd o 1,600. Fe gododd nifer y siaradwyr Cymraeg oedd ddim yn rhugl o 225,600 i 356,300, cynnydd o 130,700.

Yn ôl yr arolwg, ychydig dros hanner y siaradwyr Cymraeg sydd yn defnyddio’r iaith bob dydd, gydag 16% yn ei siarad yn wythnosol, 22% yn ei defnyddio llai aml na hynny, a 5% byth yn ei siarad.

Roedd pobl ifanc hefyd yn fwy tebygol o fod wedi derbyn addysg Gymraeg na phobl hŷn, ond hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio’r iaith bron yn gyfan gwbl yn yr ysgol.

Croesawu cynnydd

Wrth ymateb i’r canfyddiadau fe gyfaddefodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod angen i siaradwyr Cymraeg gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol.

“Mae’r arolwg yma yn rhoi darlun amserol a defnyddiol iawn o’r defnydd a wneir o’r iaith ar draws Cymru,” meddai Carwyn Jones.

“Mae llawer o bethau cadarnhaol yng nghanfyddiadau’r adroddiad – gyda chynnydd yn y nifer sy’n siarad ychydig o Gymraeg a gydag ardaloedd fel Caerdydd yn dangos cynnydd sylweddol yn y defnydd o’r iaith.

“Mae’n adeg hollbwysig i’r iaith ac rydym, fel Llywodraeth, yn parhau’n benderfynol o fynd i’r afael â’r heriau hyn a sicrhau bod gan yr iaith ddyfodol ffyniannus a diogel.”

Defnydd cymdeithasol

Ychwanegodd Carwyn Jones ei fod yn cydnabod bod angen i siaradwyr Cymraeg gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol.

“Mae annog pobl i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd wrth wraidd Bwrw Mlaen, ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith. Mae’r Safonau newydd hefyd yn garreg filltir bwysig gan greu hawliau cyfreithiol clir,” meddai.

“Mae’n hanfodol bod pobl yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a magu hyder, a hynny mewn addysg, yn y gweithle neu’n gymdeithasol.

“Mae llawer iawn o waith da eisoes yn mynd rhagddo ar draws Cymru sy’n atgyfnerthu ein gweledigaeth o ganolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r iaith a nifer y siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gallwn adeiladu ar hyn a sicrhau iaith fyw, heddiw ac ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws bod yr arolwg yn “cyfoethogi ein dealltwriaeth am sefyllfa’r Gymraeg a’r defnydd o wasanaethau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael”.

“Drwy hyrwyddo ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio’r iaith Gymraeg, bydd yr arolwg yn cyfrannu tuag at fy ngweledigaeth ehangach ar gyfer yr iaith Gymraeg i fod yn ganolog i fywyd bob dydd yng Nghymru, yn ogystal â chynnig sylfaen gref ar gyfer cynllunio ieithyddol yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod,” meddai Meri Huws.