Mae nifer y bobol sy’n dod i fyw ym Mhrydain o’i gymharu â’r rhai sy’n gadael ar ei lefel uchaf erioed.
Ym mis Mehefin, 336,000 oedd y gwahaniaeth rhwng nifer y bobol oedd yn cyrraedd ac yn gadael y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hyn yn gynnydd o 82,000 ers mis Mehefin y llynedd a’r amcangyfrif uchaf erioed.
Yn ôl ystadegwyr, cynnydd “sylweddol” yn nifer y bobol sy’n cyrraedd y DU oedd y tu ôl i’r ffigurau diweddaraf hyn, gyda’r nifer sy’n mewnfudo yma’n cyrraedd 636,000 – cynnydd o 62,000 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Dod am waith
Mae’r rhan fwyaf o’r bobol sy’n cyrraedd yma yn dod i chwilio am waith, gyda 294,000 o bobol yn mewnfudo i gael gwaith yn y flwyddyn ddiwethaf hyd at fis Mehefin.
O’r bobol hynny, roedd 64% yn gwybod bod ganddyn nhw sicrwydd o gael swydd ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Gorfodi’r Ceidwadwyr i edrych eto
Bydd y ffigurau diweddaraf hyn yn gorfodi’r llywodraeth Geidwadol i edrych eto ar ei nod o leihau mewnfudo i bum ffigwr.