Gwyl gyhoeddi Eisteddfod Maldwyn
Yn 91 oed, bu farw’r ymrysonwr poblogaidd Dafydd Wyn Jones o Aberangell ger Machynlleth.

Roedd yn aelod o dîm talwrn Maldwyn a hefyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn a’r Gororau eleni.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys Mallwyd ddydd Sadwrn.