Mae undeb Unsain wedi rhybuddio y gallai economi Cymru fod ar ei cholled o £175 miliwn y flwyddyn os bydd y Canghellor yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau i dorri credydau treth.
Yn ôl yr undeb, bydd bron i 135,000 o deuluoedd sydd mewn gwaith â phlant yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan olygu y bydd llai o bobol arian yn eu pocedi i hybu’r economi.
Fe bleidleisiodd Tŷ’r Cyffredin o blaid cynlluniau’r Ceidwadwyr i dorri credydau treth ym mis Medi, er gwaethaf gwrthwynebiad gan Lafur a’r SNP, ynghyd a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.
Y mater ‘heb fynd i ffwrdd’
Serch hynny fe wnaeth aelodau o Dŷ’r Arglwyddi orfodi’r Canghellor George Osborne i edrych eto ar ei gynlluniau.
Ond yn ôl Unsain, nid yw’r mater ar ben.
“Dyw toriadau i gredydau treth heb fynd i ffwrdd. Hyd yn oed os bydd y Canghellor yn cyhoeddi cynlluniau i oedi cyn eu cyflwyno, bydd yr oedi yn creu gofid ariannol aruthrol i deuluoedd mewn gwaith,” meddai ysgrifennydd cyffredinol Unsain, Dave Prentis.
“Dyw credydau treth ddim yn foethusrwydd, maen nhw’n rhaff achub i deuluoedd sy’n gweithio’n galed yng Nghymru.”
Dywedodd hefyd y byddai “tynnu cyfran uchel o gredydau treth teuluoedd” yn cael effaith fawr arnyn nhw.
“Bydd miloedd o deuluoedd ar incwm isel ledled Cymru yn gobeithio am newyddion da gan y Canghellor heddiw,” ychwanegodd.
“Byddan nhw am glywed ei fod wedi penderfynu yn erbyn cymryd biliynau yn ôl mewn credydau treth oddi wrth rieni mewn gwaith sy’n ceisio rhoi dechrau teg i fywyd eu plant.”
Codi’r lleiafswm cyflog ‘ddim am helpu’
Er bod y Canghellor wedi dweud y bydd yn codi’r lleiafswm cyflog i helpu teuluoedd sy’n cael eu heffeithio, mae ffigurau’r Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol wedi dangos mai £200 yn unig y bydd teuluoedd yn ei gael yn ôl o bob £750 maen nhw’n ei golli.