Yr awyren filwrol ar ol cael ei saethu gan Dwrci
Mae peilot o Rwsia yn nwylo byddin Syria ar ôl i awyren gael ei saethu i lawr gan Dwrci, yn ôl awdurdodau Rwsia.

Dywedodd un o lysgenhadon Rwsia yn Ffrainc, Alexander Orlov fod un o’r peilotiaid wedi cael ei anafu a’i ladd gan ‘jihadwyr’.

Llwyddodd ail beilot i ffoi cyn cael ei achub gan fyddin Syria.

Mae llysgennad Rwsia wedi wfftio honiadau gan lywodraeth Twrci fod y peilot wedi anwybyddu rhybudd i beidio croesi i ofod awyr Twrci.

Cyhuddodd Dwrci o gynorthwyo eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd ac o chwarae rhan amwys yn rhyfel cartref Syria.

Mae pryderon y gallai’r digwyddiad arwain at ragor o densiwn rhwng Nato a Rwsia, wrth i Arlywydd Rwsia ddweud y byddai “goblygiadau sylweddol” yn deillio o’r digwyddiad.