Fe fu farw pedwar o bobol pan darodd dau gar yn erbyn ei gilydd yng Nghorwen fore Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal am 11.39yb yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra a Vauxhall Zafira ar yr A5.

Roedd tri o ddynion ifanc lleol ymhlith y rhai fu farw.

Cafodd dau ddyn o Lannau Mersi driniaeth am anafiadau yn y fan a’r lle, cyn cael ei cludo i’r ysbyty yn Stoke – bu farw un ohonyn nhw’n ddiweddarach.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, ac maen nhw’n awyddus i holi dynes oedd yn gyrru ‘cerbyd bach coch’ a theithwyr mewn 4×4 tywyll neu ddu.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ffonio’r heddlu ar 101.