Mae dyn 18 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhenarth fore Sul.

Tarodd Nissan Micra arian yn erbyn coeden rhwng y Pump House a chwmni ceir Dick Lovett am oddeutu 3 o’r gloch y bore.

Mae’r dyn, oedd yn gyrru’r car, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth.