Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, David Cameron gyhoeddi ei gynlluniau’r wythnos nesaf i gynnal cyrchoedd awyr dros Syria.

Fe fydd Cameron yn cyhoeddi papur sy’n cynnwys saith pwynt ddiwedd yr wythnos, meddai papur newydd y Sunday Times.

Pe bai’r Senedd yn derbyn y cynlluniau, fe allai’r cyrchoedd awyr ddechrau ymhen ychydig wythnosau.

Bydd Cameron yn cyfarfod ag Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande ym Mharis ddydd Llun, ddeng niwrnod wedi’r ymosodiadau brawychol gan y Wladwriaeth Islamaidd a laddodd 130 o bobol.

Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig eisoes wedi rhoi eu sêl bendith i gymryd camau pellach yn erbyn eithafwyr Islamaidd yn Syria.

Er bod Cameron yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i leihau bygythiad eithafwyr, mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi rhybuddio rhag “ymyrraeth allanol”, gan annog ei wrthwynebydd i ddarganfod ateb diplomyddol.

Yn y cyfamser, fe fydd Ffrainc mewn argyfwng tan y flwyddyn newydd, ar ôl i’r cyfnod argyfwng gael ei ymestyn am dri mis ychwanegol.