Cafodd tri dyn eu hachub ar ôl i’w cerbyd rowlio 200 metr i lawr ceunant ym Mhowys yn ystod oriau mân y bore.
Roedd y tri, o Solihull, wedi cael eu taflu allan o’u Land Rover yn y ddamwain a ddigwyddodd gerllaw pentref Maesyfed.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw tua 3 o’r gloch y bore, a bu’r heddlu, y gwasanaeth achub mynydd, RAF Kinloss a’r ambiwlans awyr yn cymryd rhan mewn cyrch achub a barhaodd am chwe awr.
Roedd eira’n gwneud gwaith yr achubwyr yn anoddach, ac fe fu ffyrdd yr A481 a’r A44 ar gau tan 10.15 y bore yma.
Cafodd y tri eu cludo i’r ysbyty ond ni chredir bod yr un ohonyn nhw wedi dioddef niweidiau sy’n peryglu eu bywyd.
Cred yr heddlu fod y dynion yn teithiio mewn confoi gyda dau gerbyd arall, ac iddyn nhw golli rheolaeth ar eu cerbyd wrth geisio troi’n ôl ar ôl mynd ar goll. Er na chafodd gyrwyr na theithwyr y ddau gerbyd arall eu hanafu, fe fu’n rhaid iddyn nhw gael help i dynnu eu cerbydau o’r eira.