Jeremy Corbyn (Garry Knight CCA 2.0)
Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi addo “chwyldro democrataidd” a fydd yn rhoi mwy o lais i aelodau cyffredin a chefnogwyr ei blaid.

Wrth annerch cynhadledd ranbarthol y blaid Lafur ym Mryste, dywedodd mai ei ddymuniad yw gweld aelodau’n cael cyfle i bleidleisio ar-lein ar faterion polisi rhwng cynadleddau blynyddol.

“Yn rhy aml yn y gorffennol mae proses ddemocrataidd ein cynhadledd wedi cael eu hanwybyddu gan arweinwyddiaeth y blaid,” meddai.

“I lawer, y teimlad oedd mai carfan fach yn San Steffan oedd yn penderfynu, tra bod disgwyl i chi fod yn filwyr troed teyrngar yn cerdded y strydoedd i Lafur.

“Dros yr haf, fe wnaeth y blaid seneddol lanast ohoni trwy ymatal ar y Mesur Lles. Fydden ni wedi gwneud yr un camgymeriad petaen ni wedi gofyn i chi, ein haelodau, beth ddylen ni fod wedi’i wneud?

“Mae arnon ni eisiau gweld chwyldro democrataidd yn ymestyn i’n plaid, gan agor y broses o wneud penderfyniadau i’r cannoedd o filoedd o aelodau a chefnogwyr newydd sydd wedi ymuno â ni ers mis Mai.”

Rhybudd i ASau

Daw ei sylwadau wrth iddo wynebu gwrthwynebiad cynyddol gan ei gyd-aelodau seneddol ar faterion fel adnewyddu Trident.

Rhybuddiodd y bydd disgwyl iddyn nhw barchu penderfyniadau’r aelodau cyffredin.

“Wrth gwrs fod y wleidyddiaeth newydd yn ymwneud â thrafod agored gan ddangos parch,” meddai.

“Ond dw i hefyd wedi cael fy ethol i arwain, i fynegi dyheadau a phryderon miliynau o bobl – gan gynnwys cannoedd o filoedd sydd wedi rhoi fy mandad imi.

“Mae’n ddyletswydd ar i bawb ohonon ni gynnal ein trafodaethau mewn modd brawdgarol ac adeiladol, a byw gyda’r canlyniadau. Mae’n golygu parchu democratiaeth – a hefyd y rheini sy’n dibynnu arnon ni.”