Gwylnos ar y Place de la Republique yn Paris neithiwr i gofio'r gyflafan (llun: PA)
Mae heddlu arfog a milwyr allan ar strydoedd Brwsel er mwyn ceisio atal ymosodiadau tebyg i’r rhai a ddigwyddodd yn Paris yr wythnos ddiwethaf.

Dywed prif weinidog gwlad Belg, Charles Michel, fod y penderfyniad i godi lefel y wyliadwriaeth i’r eithaf yn “seiliedig ar wybodaeth benodol.”

Y pryder, meddai, yw “risg o ymosodiad tebyg i’r un a ddigwyddodd yn Paris … lle mae amryw o unigolion gydag arfau a ffrwydron yn taro, efallai mewn amryw o leoedd yr un pryd.”

Mae o leiaf un o’r rheini sy’n cael eu hamau o gymryd rhan yn yr ymosodiad ar Paris yn dal yn rhydd, ac roedd yn croesi’r ffin i wlad Belg y tro diwethaf iddo gael ei weld.

Brwsel hefyd oedd cartref Abdehamid Abaaoud, y dyn sy’n cael ei amau o drefnu’r ymosodiadau yn Paris ac a gafodd ei ladd mewn cyrch gan heddlu Ffrainc ddydd Mercher.

Mae trigolion Brwsel yn cael eu cynghori i osgoi torfeydd, gorsafoedd trên, meysydd awyr ac ardaloedd masnachol, ac nid yw’r trenau na’r tramiau tanddaearol yn rhedeg yn y ddinas.

Ar yr un pryd, mae’r prif weinidog yn pwyso ar bobl i beidio â mynd i banig. “Rydym wedi cymryd y camau sy’n angenrheidiol,” meddai.

Fe fydd llywodraeth y wlad yn cyfarfod eto brynhawn yfory i ail-asesu’r bygythiad.