Neil McEvoy
Mae un o ymgeiswyr Cynulliad Plaid Cymru yn dweud bod dynion yn cael cam mewn rhai meysydd fel iechyd, atal hunanladdiadau a hawliau gweld plant wedi i berthynas ddod i ben.
Yn ôl Neil McEvoy, sydd hefyd yn arwain grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Dinas Caerdydd, yn dweud mod “materion iechyd dynion yn aml yn cael eu hanwybyddu” a fod agweddau at hunanladdiad ymhlith dynion yn “rhywiaethol iawn”.
O ran hawliau i weld plant, roedd yn honni bod “dynion yn wynebu lefelau uchel o ragfarn rywiol gan nifer o asiantaethau gan gynnwys ysgolion, ysbytai, doctoriaid, yr heddlu ac elusennau”.
Fe ddywedodd y bydd yn ymgyrchu am ddeddf i roi hawliau cyfartal tros fagu a gweld plant i’r ddau riant a’r ddau set o neiniau a theidiau – os nac oes rheswm da i beidio.
Tri achos pryder, meddai
Er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol Dynion, fe ddywedodd Neil McEvoy nad oes dim digon o ddynion yn cael eu brechu ar gyfer afiechydon fel HPV sydd yn gallu arwain at ganser.
Mae angen edrych hefyd ar pam fod dynion yn llawer mwy tebygol o ladd eu hunain a pham fod y broblem yn waeth ymysg dynion ifanc.
Ychwanegodd y cynghorydd mai un o’r pethau oedd yn effeithio ar iechyd a lles tadau oedd pryder nad oedden nhw’n gallu gweld eu plant ar ôl gwahanu â phartner, a bod angen cryfhau eu hawliau yn y maes hwnnw.
Dyfyniadau o’r datganiad
“Mae materion iechyd dynion yn aml yn cael eu hanwybyddu. Dyma pam dw i’n defnyddio Diwrnod Rhyngwladol Dynion i dynnu sylw at anghydraddoldebau sy’n bodoli, megis y ffaith bod bechgyn ddim yn cael eu brechu yn erbyn y feirws HPV, sy’n lledaenu trwy gysylltiad rhywiol ac sy’n golygu bod nifer o ddynion yn marw’n ddiangenrhaid, sy’n hollol annerbyniol.
“Roedd 75% o hunanladdiadau yn 2014 ymhlith dynion ifanc. Hunanladdiad yw brif achos marwolaethau dynion dan 45 mlwydd oed, ond er hyn, d’yn ni ddim yn siarad am y peth. Pam? Mae disgwyliad y dylai dynion fod yn gallu ymdopi gyda phethau, ond yn amlwg, dyw hyn ddim yn wir. Mae’r agwedd bresennol yn rhywiaethol iawn.
“Ar ddiwrnod Rhyngwladol Dynion eleni, dwi am dynnu sylw hefyd at y ffaith fod nifer fawr o ddynion yn ei gweld hi’n anodd cadw mewn cysylltiad gyda’u plant ar ôl ysgariad neu ar ôl I berthynas dorri lawr. Mae dynion yn wynebu lefelau uchel o rywiaeth gan nifer o asiantaethau gan gynnwys ysgolion, ysbytai, doctoriaid, yr heddlu ac elusennau.
“Yn fy marn i, fe ddylai fod yna ddeddf sy’n sicrhau bod rhianta yn cael ei rannu, a fyddai’n sicrhau bod gan blant yr hawl i weld y ddau riant a’r ddau nain neu daid, heblaw fod yna reswm da yn erbyn hyn”