Stephen Crabb (PA)
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, fe fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud “popeth posib” i gefnogi’r diwydiant a gweithwyr dur, yn enwedig rhai Cymru.
Wrth gael ei holi yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw yn ystod y sesiwn cwestiynau Cymraeig, dywedodd Stephen Crabb fod y diwydiant yn wynebu llawer o heriau yn sgil mewnforio rhad, prisiau’n gostwng a chostau ynni drud.
“Gyda bron i hanner gweithllu diwydiant dur y Deyrnas Unedig yn cael eu cyflogi yng Nghymru, r’yn ni’n cydnabod yr effaith y bydd yr heriau rhyngwladol hyn yn ei chael ar weithwyr dur yng Nghymru a’u teuluoedd,” meddai wrth aelodau seneddol.
“R’yn ni’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant a gyda’r gweinyddiaethau sydd wedi’u datganoli i wneud popeth posibl i gefnogi’r diwydiant yn ystod y cyfnod hwn.”
Galw am iawndal i’r diwydiannau
Yn ôl llefarydd y Blaid Lafur, Nia Griffith, mae “swyddi miloedd o weithwyr yng Nghymru yn dibynnu” ar daliadau sydd wedi eu haddo i’r diwydiant dur i wneud iawn am gostau ynnni.
Fe alwodd am sicrwydd gan Stephen Crabb y byddai’r pecynnau hyn yn cyrraedd y diwydiannau erbyn diwedd y mis.
Ar ôl pwysleisio bod £50 miliwn eisoes wedi mynd i’r diwydiant fe ddywedodd Stephen Crabb fod y Llywodraeth yn y broses o drosglwyddo’r arian.