Mae pedwar person yn yr ysbyty a dau berson ar goll yn dilyn ffrwydrad ar safle ffatri ddur ar gyrion Caerdydd y bore yma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10.30yb i safle gwneuthurwyr dur Celsa yn Sblot yn dilyn digwyddiad yno, gyda rhagor o gerbydau tân wedyn yn cael eu galw.

Cafodd pum person eu hanafu, gydag un yn cael ei drin yn y fan a’r lle a phedwar bellach wedi cael eu cludo i’r ysbyty.

Yn ôl Heddlu De Cymru dydyn nhw dal heb gael cadarnhad o leoliad dau o weithwyr y ffatri.

Cafodd sawl ambiwlans hefyd eu hanfon i’r adeilad, ac am gyfnod gofynnodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i bobl beidio ag ymweld ag unedau brys heblaw ei bod hi’n “hollol angenrheidiol”.

Sŵn ‘byddarol’

Dywedodd gweithwyr yn ffatri Celsa yn ogystal â swyddfeydd cyfagos eu bod wedi teimlo’r adeilad yn ‘ysgwyd’ yn ystod y ffrwydrad a bod y sŵn yn fyddarol.

Yn ôl llefarydd o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae’n debyg bod y tân a achosodd y ffrwydrad wedi dechrau yn un o ystafelloedd tanddaearol y gweithfeydd.

Mae’n debyg bod sawl damwain wedi digwydd yn y ffatri dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys tri aelod o staff gafodd eu cludo i’r ysbyty â llosgiadau llynedd, a dyn yn cael ei ladd yn 2007 ar ôl cael ei daro’n anfwriadol gan fachyn metel.

Mae’r safle yn agos i ffordd gyswllt rhwng Bae Caerdydd a chanol y ddinas, ac fe allai hynny olygu ei fod yn amharu ar draffig.

Pryder

Mae rhai o wleidyddion Cymru hefyd wedi ymateb i’r ddamwain, gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod yn cael ei “ddiweddaru yn gyson” a’i fod yn meddwl am bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad.

Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies bod y newyddion am weithfeydd Celsa yn “bryderus” gan alw ar bobl i ddilyn cyngor y bwrdd iechyd a pheidio ag ymweld ag unedau brys yr ysbytai oni bai ei bod hi’n argyfwng.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ei bod hi’n poeni am y “gweithwyr a’r teuluoedd sydd wedi’u heffeithio yn ogystal â’r gwasanaethau brys wrth iddyn nhw barhau â’u gwaith”.