Jonah Lomu
Mae un o gewri’r byd rygbi, Jonah Lomu wedi marw yn 40 oed ac mae rhai o enwau mawr y gem yng Nghymru wedi bod yn talu teyrngedau iddo.

Roedd yn gyn-asgellwr i Seland Newydd a daeth i sylw’r byd yn ystod Cwpan y Byd 1995 pan oedd yn 20 oed gan “drawsnewid” y gêm gyda’i berfformiadau grymus.

Bu’n chwarae hefyd i Gleision Caerdydd am gyfnod.

Afiechyd

Roedd yn dioddef o afiechyd ar yr arennau ers 1997.

Er iddo gael trawsblaniad yn 2004, doedd ei gorff ddim wedi derbyn yr aren newydd ac roedd ar ddialysis yn aros am aren newydd pan fu farw.

Mae’n gadael ei wraig, Nadene a dau o feibion.

Chwaraewr a llysgennad

Roedd yn cael ei gofio ar y cae rygbi ond fel llysgennad i’r gêm hefyd ar ôl iddo roi’r gorau i chwarae.

Wrth roi teyrnged iddo ar raglen y Post Cyntaf y bore ma dywedodd y sylwebydd a chyn-faswr Cymru Jonathan Davies, fod Jonah Lomu yn “un o’r goreuon oedd erioed wedi chwarae’r gêm”.

A dywedodd hefyd ei fod wedi ‘newid y gêm’ gyda’i gyflymder ar y cae, ei faint a’r ffordd roedd e’n chwarae rygbi yn gyffredinol.

Yn ôl Jonathan Davies, roedd wedi denu “miloedd ar filoedd o bobol i ddod i weld rygbi”.

Teyrngedau

Mae sawl un arall o’r byd rygbi a thu hwnt wedi talu teyrnged i Jonah Lomu ar wefannau cymdeithasol heddiw.

‘Cyflymach ac yn fwy’

Roedd Delyth Morgan, sydd wedi byw yn Seland Newydd ers 10 mlynedd hefyd wedi rhoi teyrnged iddo ar y Post Cyntaf:

“Mae’r gymuned yma i gyd yn teimlo’n ofnadwy o drist ei fod wedi colli ei frwydr… a dwi’n meddwl bod hynny’n adlewyrchiad o’r dyn oedd e,” meddai gan ddweud bod ei farwolaeth yn ‘golled anferth’.

“Roedd e’n gyflymach ac yn fwy nag unrhyw un oedd yn gallu dod yn ei erbyn e ac fe wnaeth e brofi hynny yn erbyn rhai o’r goreuon yn y byd. Does neb wedi gweld rhywbeth tebyg i Jonah Lomu ers hynny.”