Casnewydd 4–1 Brackley                                                                 

Mae Casnewydd yn ail rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Brackley ar Rodney Parade nos Fawrth.

Wedi gêm gyfartal yn Brackley ddeg diwrnod yn ôl roedd rhaid ail chwarae’r gêm rownd gyntaf, ond chafodd Casnewydd ddim trafferth yn trechu’r tîm sy’n chwarae ddwy adran yn is na hwy ar yr ail gynnig.

36 eiliad yn unig gymrodd hi i Lennell John-Lewis agor y sgorio o ongl dynn, ac roedd hi’n ddwy wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae diolch i gic rydd gywrain Yan Klukowski.

Tynnodd Aidan Hawtin un yn ôl i Brackley cyn yr egwyl i roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr.

Ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad yn y diwedd diolch i ddwy gôl ail hanner i Gasnewydd, y gyntaf yn ergyd daclus gan Alex Rodman a’r ail yn gôl i’w rwyd ei hun gan sgoriwr gôl Brackley, Hawtin.

Bydd Casnewydd yn awr yn teithio i Barnet yn yr ail rownd ar Ragfyr y 5ed.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Barnum-Bobb (Hughes 58′), Bennett, Partridge, Holmes, Elito, Klukowski (Owen-Evans 67′), Rodman, Byrne, John-Lewis (Collins 69′), Boden

Goliau: John-Lewis 1’, Klukowski 17’, Rodman 63’, Hawtin [g.e.h.] 71’

Cerdyn Melyn: Boden 66’

.

Brackey

Tîm: Hornby, Hawtin, Graham, Mills, McDonald, Odhiambo, Clarke, Walker, Batchelor (Winters 76′), Akintunde (Moyo 73′), Diggin (Smith 78′)

Gôl: Hawtin 39’

Cardiau Melyn: Diggin 45’, Hawtin 60’, Clarke 73’

.

Torf: 1,511