Aaron Shingler
Mae blaenasgellwr y Scarlets Aaron Shingler wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn para nes “tymor 2016/17 ac ymhellach”, yn ôl y rhanbarth.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros dîm Parc y Scarlets nôl yn 2009 ac ers hynny mae’r chwaraewr 28 oed wedi sefydlu’i hun fel un o hoelion wyth y tîm.
Ers hynny mae hefyd wedi chwarae dros dîm saith bob ochr Cymru yn ogystal ag ennill wyth cap rhyngwladol dros y tîm cyntaf, gyda’r olaf o’r rheiny yn dod llynedd yn erbyn De Affrica.
Ac fe gyfaddefodd Shingler mai rhan o’r rheswm yr oedd mor awyddus i aros gyda’r Scarlets oedd bod ganddo obeithion o hyd o chwarae dros ei wlad.
Diddordeb o Loegr
Mae gan Aaron Shingler 11 cais mewn 121 gêm dros y Scarlets yn ystod ei yrfa, ac mae bellach yn chwarae yn yr un tîm a’i frawd Steven sydd yn faswr ar Fois y Sosban.
Fe awgrymodd rheolwr rygbi cyffredinol y Scarlets Jon Daniels bod clybiau o Loegr wedi dangos diddordeb yn y blaenasgellwr ond, yn ôl Shingler ei hun, Llanelli oedd y lle gorau iddo fe a’i yrfa.
“Y Scarlets roddodd y cyfle cyntaf i mi mewn rygbi rhyngwladol a fi’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu gyda fy rhanbarth gartref,” meddai Aaron Shingler.
“Mae’n bwysig i mi fod yn chwarae ar y lefel uchaf posib er mwyn parhau i ddatblygu ac mae’r Scarlets, fel un o ddau ranbarth gorau Cymru sydd yn chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop, yn cynnig y cyfle hwnnw i mi.
“Mae gen i uchelgais o hyd i chwarae dros Gymru a dwi’n teimlo mai dyma’r lle gorau i wireddu’r uchelgais hwnnw.”