Emyr Huws yn sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru (llun: Nigel French/PA)
Mae Emyr Huws yn mynnu mai gwaith caled dros y misoedd diwethaf ac nid lwc yw’r ffaith ei fod fel petai e methu â stopio sgorio ar hyn o bryd.

Peniodd y chwaraewr canol cae ail gôl Cymru wrth iddyn nhw golli 3-2 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd nos Wener, y cyntaf iddo sgorio i’w wlad.

Mae ganddo eisoes bedair gôl mewn 11 gêm dros Huddersfield yn y Bencampwriaeth y tymor yma, ac roedd hi’n rhyddhad i’r chwaraewr 22 oed ganfod cefn y rhwyd i Gymru hefyd.

“Roedd e’n brofiad da iawn i fi, cael fy ngôl gyntaf i Gymru, felly ro’n i’n chuffed,” meddai Huws.

“Sa i wedi sgorio llawer o headers ond roedd e’n gôl dda.”

Gweithio ar ei goliau

Fe fethodd Emyr Huws weddill tymor diwethaf gyda Wigan ar ôl anafu’i bigwrn ym mis Chwefror eleni, gan dreulio misoedd yn cael triniaeth ac yn gwella.

Yn lle treulio’r cyfnod yn poeni a fyddai’n gallu ennill ei le nôl yn y tîm gyda’i glwb a’i wlad unwaith yr oedd yn ffit fodd bynnag, fe ganolbwyntiodd y bachgen o Lanelli ar sut i wella rhai agweddau o’i gêm.

Ac mae’n ymddangos bod hynny wedi talu ar ei ganfed y tymor hwn wrth iddo greu argraff ar fenthyg yn Huddersfield er bod y tîm yn ei chael hi’n anodd y tymor hwn.

“Mae ‘di bod yn wael ers i fi fod mas am fisoedd gyda’r anaf, felly fi’n chuffed i fod nôl a sgorio hefyd, roedd e’n deimlad da,” meddai.

“Pryd ro’n i’n injured ro’n i’n meddwl bod rhaid i fi adio mwy o goliau i fy ngêm, felly fi ‘di bod yn ymarfer ar y cae chwarae ac mae’n neis gweld e’n talu bant.”

‘Pawb yn edrych ymlaen’

Roedd Huws yn un o sawl chwaraewr ifanc gafodd gêm yn erbyn yr Iseldiroedd yn absenoldeb rhai o sêr y tîm fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac roedd rheolwr Chris Coleman hefyd yn awyddus i weld beth oedd gan eraill i’w gynnig.

Yr her nesaf i’r chwaraewr canol cae, a ddechreuodd ei yrfa ieuenctid gydag Abertawe cyn symud i Man City, fydd sicrhau ei fod yn parhau i wneud digon o argraff er mwyn sicrhau ei le yng ngharfan Ewro 2016 Cymru ym mis Mehefin.

“Fi’n credu bod e’n bwysig i roi profiadau i chwaraewyr sydd ddim ‘di cael y siawns i chwarae [yn ystod yr ymgyrch ragbrofol], felly mae’n dda i’r sgwad i’r bois gael gemau,” meddai Emyr Huws.

“Mae pawb yn edrych ymlaen [i’r Ewros], ni’n mynd nôl i’r clybiau a mynd ‘mlaen â busnes as usual, ond mae pawb yn edrych ymlaen at yr haf.

“Mae lot o chwaraewyr yng nghanol cae a lot o dalent hefyd, felly bydd e’n anodd i dorri mewn i’r tîm, ond fi jyst moyn cadw’n ffit a gobeithio cicio ‘mlaen.”