Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae Llys y Goron yr Wyddgrug wedi clywed gan un o beilotiaid yr Awyrlu am honiadau o sut y cafodd golau llachar ei ddisgleirio tuag at awyrennau roedden nhw’n eu hedfan gyda’r nos.
Mae John Arthur Jones, 65 oed, o Fodffordd, Ynys Môn yn gwadu 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod John Arthur Jones yn byw yn agos i faes awyr Mona, a’i fod yn “flin” am y gweithgarwch yn yr awyr uwch ei gartref gyda’r nos.
Fe glywodd y llys fod yr RAF yn defnyddio maes awyr Mona fel “rhan bwysig o’u hyfforddiant” sy’n cynnwys hedfan yn ystod y nos.
Fe ychwanegodd yr Arweinydd Sgwadron Paul Harrison fod y golau wedi “peryglu’r awyrennau a’r peilotiaid” ond roedd yn cytuno bod y risg o’r golau yn “isel”.
Mae’r achos yn parhau.