David Cameron
Mae David Cameron wedi cyhoeddi ei fod am amlinellu “strategaeth gynhwysfawr” i fynd i’r afael a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), gan gynnwys ymosodiadau o’r awyr ar IS yn Syria.

Wth drafod yr ymosodiadau ym Mharis yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, dywedodd y Prif Weinidog y dylai Prydain “fod yn gwneud mwy” yn erbyn IS yn Syria.

Ychwanegodd bod yr achos dros weithredu wedi dwysau ers yr ymosodiadau brawychol ym mhrifddinas Ffrainc.

‘Dylwn ni fod yn gwneud mwy’

“Yn Syria, yn Raqqa, mae pencadlys IS, a dyma le mae’r bygythiadau mwyaf yn erbyn y wlad hon yn cael eu cynllwynio.

“Yn Syria, rydym yn cefnogi ein cynghreiriaid, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Gwlad yr Iorddonen a gwledydd y Gwlff drwy ddarparu cudd-wybodaeth a gwyliadwriaeth. Ond, fel rydw i wedi dweud nifer o weithiau o’r blaen, dwi’n credu y dylwn ni fod yn gwneud mwy.

“Rydym yn wynebu bygythiad cynyddol i’n gwlad ac mae’n rhaid i ni ddelio gyda hynny, nid yn unig yn Irac ond yn Syria hefyd.”

Dywedodd ei fod yn gobeithio cael cefnogaeth drawsbleidiol ac mae disgwyl iddo gynnal pleidlais seneddol yn fuan.

‘Angenrheidiol’

Wrth ymateb i bryderon Aelodau Seneddol ynglŷn â’r effaith y gallai ymgyrch fomio ei gael, dywedodd David Cameron ei fod yn bwriadu amlinellu “strategaeth gynhwysfawr i ddelio gydag IS, a’n gweledigaeth ar gyfer Dwyrain Canol mwy sefydlog a heddychlon.”

“Fe ddylai’r strategaeth yma, yn fy marn i, gynnwys gweithredu yn Syria ac rwy’n gobeithio, drwy osod y dadleuon yn y modd yma, y galla’i ennyn cefnogaeth Tŷ’r Cyffredin ar gyfer gweithredu sydd, rwy’n credu, yn angenrheidiol.”

Ychwanegodd y byddai’n ymateb yn bersonol i bryderon gafodd eu mynegi mewn adroddiad gan y Pwyllgor Materion Tramor ynglŷn â gweithredu milwrol yn Syria.