Mae cyn-blismon o Hen Golwyn wedi ymddangos o flaen llys heddiw wrth iddo wynebu tri chyhuddiad pellach o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae Gordon Anglesea, 78 oed, bellach yn wynebu cyfanswm o 10 cyhuddiad honedig yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn bechgyn rhwng 11 ac 16 oed.
Ym mis Gorffennaf eleni, cyhuddwyd Gordon Anglesea, a oedd yn gyn brif-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, o saith trosedd honedig yn erbyn tri bachgen, a hynny rhwng 1979 a 1987.
Yna, ddechrau mis Tachwedd, fe gafodd ei gyhuddo o ddau achos o ymosod yn anweddus ac un achos o sodomiaeth yn ymwneud â bachgen o dan 16 oed.
Pallial
Mae’r ymchwiliad yn rhan o Ymgyrch Pallial – ymchwiliad annibynnol gan yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) i honiadau diweddar o ymosodiadau rhyw yn y system ofal plant yng Ngogledd Cymru.
Yn dilyn y gwrandawiad heddiw, a barodd dri munud, fe gafodd Gordon Anglesea ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, 20 Tachwedd ar gyfer gwrandawiad cychwynnol mewn perthynas â’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.