Mae Heddlu’r Almaen wedi arestio tri o bobl ger dinas Aachen mewn cysylltiad ag ymosodiadau brawychol Paris.
Cafodd y ddwy ddynes a dyn eu harestio yn nhref Alsdorf yng ngogledd ddwyrain y ddinas, yn ôl yr asiantaeth newyddion dpa yn yr Almaen.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau nos Wener, pan gafodd o leiaf 129 o bobl eu lladd.
Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau yn Ffrainc sy’n edrych am Salah Abdeslam, un o’r bobol maen nhw’n credu sy’n gysylltiedig â’r ymosodiadau ym Mharis, yn credu bod y brawychwyr wedi defnyddio tŷ ac ystafell mewn gwesty ar gyrion y ddinas i drefnu’r gyflafan.
Yn ôl papur newyddion o Ffrainc, Le Point, fe gafodd ystafell yn l’Appart city d’Alfortville, gwesty yn ardal Alfortville ym Mharis, ei harchebu yn enw Salah Abdeslam rhwng 11 a 17 Tachwedd.
Mae’r heddlu yn amau Salah Abdeslam o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiadau ac mae’n frawd i un o’r hunan-fomwyr a ffrwydrodd bom mewn bwyty.
Yn ôl y cyfryngau yn Ffrainc fe archebodd Salah Abdeslam yr ystafell gydag un person arall.
‘Chwistrellau a bocsys pizza’
Doedd dim camerâu cylch cyfyng yn y gwesty, ond yn ôl cylchgrawn Le Point, mae’r heddlu wedi dod o hyd i olion DNA yno.
Fe gafwyd hyd i chwistrellau a bocsys pizza ac mae Le Point yn dweud bod yr heddlu yn cynnal profion i weld os cafodd y nodwyddau eu defnyddio i wneud ffrwydradau neu os oedden nhw’n nodwyddau hypodermig.
Ac mae’r ail leoliad sydd wedi cael ei gyrchu gan yr heddlu nos Sul yn ardal Bobigny, yn agos i’r Stade de France.
Yn ôl cylchgrawn arall yn Ffrainc, Liberation, fe wnaeth brawd Salah Abdeslam, sef Brahim Abdeslam rhentu tŷ yn ardal Bobigny yn y brifddinas rhwng 11 a 17 Tachwedd hefyd.