Mae’r sector lletygarwch yng Nghymru yn paratoi i groesawu ymwelwyr o Loegr, sydd heb y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau Covid o heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19) – ac mae perchennog caffi yng Nghaernarfon yn poeni y bydd hynny’n achosi “miri”.
Daeth y mwyafrif o gyfyngiadau yn Lloegr i ben gyda’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘ddiwrnod rhyddid’, ond mae’r prif weinidog Boris Johnson yn annog pobol i fod yn “ofalus”.
Mae’r Alban wedi gostwng i Lefel Sero, sy’n golygu y bydd ambell i gyfyngiad symud yn aros mewn grym yn y wlad honno, a bydd Gogledd Iwerddon yn lleddfu mesurau ar Orffennaf 26.
Gyda’r sefyllfa yma yng Nghymru yn aros yr un fath am y tro, mae’n rhaid i’r diwydiant lletygarwch sicrhau bod y rheolau priodol, fel gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol, yn cael eu gorfodi ar ymwelwyr.
Mae hyn wedi achosi pryder i rai busnesau wrth iddyn nhw ystyried y gwrthdaro y gallai hynny ei achosi i’w staff.
‘Mae o’n mynd i greu miri’
Mae Tudor Hughes, perchennog Caffi Maes yng Nghaernarfon, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn pryderu am yr ymwelwyr sydd yn mynd i ddod i mewn heb wisgo masgiau.
“Y pryder mwyaf ydy eu bod nhw’n dod yma a dweud bod dim rhaid iddyn nhw wisgo masg achos eu bod nhw o Loegr,” meddai.
“Dw i ddim yn gweld lot ohonyn nhw yn cyfri ni fel Cymru, ac maen nhw’n mynd i ddod yma a dweud pam ddylen nhw wisgo masg.
“Mae o’n mynd i greu miri.”
O ran y paratoadau, mae Tudor am i’w staff fod yn llym â’r rheolau, ond mae’n poeni am y ffraeo y gallai hynny ei achosi.
“Roedden ni’n gyrru negeseuon allan i staff neithiwr yn dweud eu bod nhw’n mynnu bod rhaid gwisgo masg i ddod yma,” meddai.
“Mae’n broblem hefyd bod rhywun yn dweud eu bod nhw ddim yn gymwys i wisgo masg, a bydd lot yn defnyddio hynny fel esgus.
“Mae’n sefyllfa anodd iawn i’n staff ni.”
‘Haen arall o anniddigrwydd gan gwsmeriaid’
Yn ôl Zac Marsden, sy’n berchen ar Bottle & Barrel, bar yn Aberystwyth, dydi amharodrwydd rhai ymwelwyr i wisgo masg ddim yn beth newydd, ond gall y newid mewn cyfyngiadau ychwanegu at hynny.
“Does dim llawer wedi newid; rydyn ni’n eithaf ynysig yma yn Aberystwyth, felly gobeithio erbyn i bobol gyrraedd yma bydden nhw wedi arfer gwisgo masg,” meddai Zac.
“Rydyn ni wedi cael llond bol eisoes dweud wrth bobol am roi masg arno.
“Rwy’n disgwyl y bydd pobl yn gofyn: ‘Os nad ydw i’n gorfod gwisgo un yn Lloegr, pam fy mod i’n gorfod gwisgo un yng Nghymru?’, a hefyd bydd pobol yn anhapus gyda’r holl reolau cadw pellter sy’n briodol tu mewn.
“Mae’n mynd i ychwanegu haen arall o anniddigrwydd gan gwsmeriaid.”
Dydy Zac ddim yn credu chwaith y bydd y gwahaniaeth cyfyngiadau yn achosi i lai o bobol ddod ar wyliau i Gymru.
“Dydw i ddim yn gweld neb yn newid eu cynlluniau achos hyn,” meddai.
“Os nad ydyn nhw eisiau dod i Gymru oherwydd eu bod nhw’n gorfod gwisgo masg, yna mae’n gwneud synnwyr iddyn nhw beidio dod.
“Ond [o gymharu â’r haf diwethaf], mae pobol ar y cyfan yn hapusach i wisgo masg.”