Caban Coch, Cwm Elan
Mae’r gwaith o adfer cronfa Gymreig sy’n darparu dŵr i drigolion Birmingham wedi dechrau.

Bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar adfer y gronfa yng Nghwm Elan, a gafodd ei chodi yn Oes Fictoria.

Prif bwrpas y gwaith yw cynnal a chadw pibellau 73 milltir o hyd, ac mae’r gwaith yn golygu sefydlu pibellau osgoi newydd yn Nantmel, Trefyclo a Bleddfa ym Mhowys.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dŵr Severn Trent Water mai sicrhau dyfodol tymor hir y gronfa yw prif ddiben y gwaith.

Mae 320 miliwn litr o ddŵr yn cael eu cludo bob dydd.

Y gobaith yn dilyn y gwaith cynnal a chadw yw y bydd 50 diwrnod y flwyddyn ar gael i beirianwyr sicrhau bod y cyflenwad dŵr yn addas – pum niwrnod o waith cynnal a chadw sy’n bosib ar hyn o bryd.

Fis diwethaf, dywedodd prif weithredwr cwmni Severn Trent, Liv Garfield wrth bapur newydd y Birmingham Post mai cynllun cronfa Cwm Elan yw’r “her beirianyddol fwyaf a mwyaf cyffrous yn hanes Severn Trent”.