Llys Ynadon Llanelli
Mae pump o bobol wedi cael eu cyhuddo wedi i weddillion dynol gael eu darganfod mewn tŷ yn Sir Gâr ddydd Mercher.

Mae dau ddyn 20 a 45 oed wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth, tra bod tri arall – dynion 26 a 43 oed a merch 17 oed wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd y gweddillion eu darganfod yn Pleasant View, Felinfoel.

Bydd y pump yn ymddangos gerbron ynadon yn Llanelli ddydd Llun.