Mae Plaid Cymru’n galw am barhau â’r rheol sy’n ei gwneud hi’n orfodol i wisgo mygydau mewn siopau.

Wrth gwestiynu’r Prif Weinidog Mark Drakeford, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd, adleisio cwestiwn gan Gwynfor Owen, cynghorydd newydd Harlech.

“Dychmygwch sefyllfa lle mae’n rhaid i weithiwr mewn siop wisgo gorchudd wyneb i gael mynediad i’r feddygfa leol, ond byddai meddyg ddim yn gorfod gwisgo mwgwd i fynd i’r siop?” meddai Rhun ap Iorwerth ar ran Gwynfor Owen, sydd newydd ei ethol i Gyngor Gwynedd dros Blaid Cymru.

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth alw ar Lywodraeth Cymru i fod yn “ddigyfaddawd” wrth amddiffyn plant a phobol ifanc rhag y feirws, gan gynnwys cymryd mesurau i wella systemau awyru ysgolion a brechu.

Cododd e bryderon ynghylch effaith Covid Hir ar bobol ifanc hefyd, gan ofyn am unrhyw ddatblygiad ar wasanaethau Covid Hir Plant.

Dim “dewis a dethol”

“Ni ddylai llywodraethau ddewis a dethol pa amgylchiadau cyswllt agos sy’n gofyn am fygydau – dydi coronafeirws yn sicr ddim yn gwahaniaethu felly!” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru.

“Dw i’n croesawu’r cadarnhad y bydd rhaid i bobol barhau i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn sefydliadau iechyd, ond mae bod mewn siop brysur yn risg hefyd, gan gynnwys i staff.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru rannu ei rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad, fel arall bydd gennym ni sefyllfa lle bydd gweithiwr siop yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb i fynd at y meddyg, ond ni fydd eu meddyg yn gorfod gwisgo mwgwd i ymweld â’u siop.”