Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar effaith y pandemig ar y Gymraeg, sy’n cynnig argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru.

Ymysg yr argymhellion hynny, maen nhw am weld Comisiwn yn cael ei sefydlu er mwyn ymchwilio’n swyddogol i dynged y Gymraeg fel iaith gymunedol yn sgil Brexit a’r pandemig.

Daeth dros 120 o gynadleddwyr ynghyd ar-lein i drafod effaith Covid-19 ar yr iaith Gymraeg ym mis Mawrth eleni, a’r effeithiau maen nhw wedi’u profi a’u hadnabod wrth eu gwaith a’u bywydau dydd i ddydd.

Mae’r adroddiad Troi Gofid yn Obaith yn cwmpasu a chofnodi’r testunau a gafodd eu trafod yn y gynhadledd, a sut i weithredu.

Byd addysg a’r blynyddoedd cynnar

Ledled Cymru, tua 6% o blant sy’n dysgu’r Gymraeg adre’ erbyn hyn, gyda’r cyfnod hwn yn ein hatgoffa pa mor hanfodol yw addysg Gymraeg o ran creu siaradwyr, meddai’r adroddiad.

Gydag ysgolion yn dysgu ar-lein yn ystod y pandemig, mae Academi Hywel Teifi yn pwysleisio pwysigrwydd cynyddu cyflymder twf addysg Gymraeg yn sylweddol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad i’r Llywodraeth mae cyflwyno Deddf Addysg Gymraeg â’r nod hirdymor o wneud y Gymraeg yn gyfrwng iaith y gyfundrefn addysg gyfan.

Yn y cyfamser, mae’n mynnu targedu mwy uchelgeisiol yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg o ran symud ysgolion i fyny’r continwwm iaith – creu ysgolion Cymraeg newydd, a throi ysgolion dwyieithog a Saesneg yn rhai Cymraeg.

Methodd Llywodraeth Cymru â chyrraedd eu targed ar gyfer nifer y plant saith oed sy’n dysgu drwy’r Gymraeg, ond maen nhw’n mynnu bod yr ystadegau ar gyfer plant meithrin a derbyn yn “galonogol”.

Tai a mudo

Dywed yr adroddiad fod prisiau tai mewn rhai ardaloedd ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobol leol cyn y pandemig, ond fod y pandemig wedi ychwanegu at y broblem.

Gyda mwy o bobol yn gallu gweithio o adre’, mae disgwyl y bydd hynny’n arwain at gynnydd mawr mewn galw am ail gartrefi, ac o gyfuno hynny â Brexit – sy’n ei gwneud hi’n anoddach symud i fyw i Ewrop – mae perygl y bydd hynny’n cael effaith sylweddol ar ardaloedd arfordirol a chefn gwlad Cymru.

Mae’r adroddiad yn argymell fod rhaid rhoi grymoedd i awdurdodau lleol allu rheoli’r farchnad dai, a chyflwyno treth trafodiadau tai lleol lle mae ail gartrefi’n broblem, ymysg awgrymiadau eraill.

Mae hefyd yn pwysleisio fod rhaid edrych ar allfudo, yn ogystal â mewnfudo, a mynd i’r afael â diffyg cyfleoedd gwaith.

Ynghyd â hynny, mae’n dweud y dylid sefydlu Comisiwn i ymchwilio’n swyddogol i dynged y Gymraeg fel iaith gymunedol yn sgil Brexit a Covid-19, a llunio argymhellion polisi cenedlaethol ar gyfer hynny.

Polisi cyhoeddus

Dangosodd sawl achos yn ystod y cyfnod diwethaf fod diwylliant yn dal i fod mewn polisi cyhoeddus o drin y Gymraeg fel rhyw fath o ychwanegiad yn hytrach na rhywbeth sy’n greiddiol i bob maes, meddai’r adroddiad.

Er hynny, mae’n nodi mai un o ganlyniadau cadarnhaol y pandemig, o bosib, yw ymwybyddiaeth uwch o statws Cymru fel gwlad ar wahân ac fel gwlad ddwyieithog, yn sgil cynadleddau Mark Drakeford i’r wasg.

Yn ôl yr Academi, dylid sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ar draws holl feysydd gwaith y Llywodraeth, a’i bod hi’n gyfrifoldeb i bob maes.

Fel rhan o hynny, maen nhw’n galw am ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru hefyd, fel cam tuag at sefydlu cyfundrefn ddarlledu sy’n gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac mae galwadau i fynd i’r afael â’r diffyg siaradwyr Cymraeg ym maes gofal ac iechyd hefyd.

Gweithdrefnau a’r gweithle

Ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 12), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod rhaid i’r rheiny sy’n ymgeisio am swyddi gyda nhw fod â gwybodaeth ‘lefel cwrteisi’ o’r Gymraeg.

Mae darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith yn rhan o argymhellion y Ganolfan i’r Llywodraeth, ynghyd â chynyddu cyllideb cynlluniau Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel bod mwy o Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn gweithleoedd.

Mewn cymunedau

Er bod llai o weithgarwch cymunedol wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r adroddiad yn nodi bod digwyddiadau estyn allan digidol yn gallu bod yn fwy effeithiol o ran cyrraedd pobol newydd, yn ogystal â chyrraedd pobol ym mhob rhan o’r wlad.

Gan bwysleisio pwysigrwydd mudiadau cymunedol, mae’r adroddiad yn awgrymu creu rhwydwaith o swyddogion mentrau cymdeithasol i sefydlu gweithleoedd Cymraeg ar draws y wlad.

Maen nhw hefyd am weld gwariant datblygu cymunedol yn canolbwyntio ar fentrau cymunedol a busnesau bach, yn hytrach na chorfforaethau mawr.

“Sicrhau gwytnwch i’r Gymraeg”

Mae Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn dweud bod cyfuniad o argymhellion y gellir eu gweithredu, ond eu nod yw sicrhau gwytnwch i’r Gymraeg mewn cyfnodau o argyfwng cymunedol ehangach.

“Yn sgil y pandemig, bu raid i’n defnydd o’r Gymraeg a’n gallu i’w defnyddio addasu bron fel petai dros nos. Newidiodd y gofod sgwrsio i fod yn un rhithiol yn hytrach na chymunedol,” meddai Dr Gwenno Ffrancon.

“Daeth ymadroddion neu ystyron newydd i eiriau yn rhan o’n sgwrs bob dydd. Nod y gynhadledd felly oedd rhoi cyfle i sefyllfa’r Gymraeg yn y ‘normal newydd’, gael ei hystyried o ddifri gan dynnu rhanddeiliaid ynghyd i gyd-drafod a rhannu syniadau ar sut y gallwn ni droi gofid yn obaith.

“Rydym yn gwahodd gwleidyddion, llunwyr polisi, swyddogion llywodraeth leol a chymunedol a’r cyhoedd i ystyried yr argymhellion a gyflwynir yn yr adroddiad ac i gymryd camau i weithredu arnynt.

“Mae yna gyfuniad o argymhellion all gael eu gweithredu dros nos tra bod eraill yn gofyn am ymrwymiad a dycnwch i ddwyn y maen i’r wal, ond nod y cyfan yw sicrhau gwytnwch i’r Gymraeg mewn cyfnodau o argyfwng cymunedol ehangach.”