Mae Cyngor Sir Powys yn dweud y bydd ymgynghoriad ar gynnig i gau ysgol gynradd yng ngogledd y sir.

Heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 13), fe gytunodd y Cabinet i ddechrau ymgynghoriad ym mis Medi ar gynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith ym mhentref Llansilin.

Dywed y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo, fod y Cyngor yn bwriadu “trawsnewid y profiad dysgu i ddysgwyr a thrawsnewid eu hawliau”.

“Fe fyddwn yn cyflawni hyn trwy gyflwyno ein Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys 2020 – 2030,” meddai.

“Mae ein strategaeth yn uchelgeisiol ac yn gyffrous, ac rydym yn credu y bydd yn rhoi’r dechrau gorau posibl y mae ein dysgwyr yn ei haeddu.”

‘Budd disgyblion sydd wrth wraidd y penderfyniad”

“Nid penderfyniad hawdd oedd y cynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith,” meddai wedyn.

“Ond mae’r cynnig hefyd wedi cael ei ddatblygu gyda budd pennaf y dysgwyr mewn golwg, sydd wedi bod ar flaen ein trafodaethau a’n prosesau gwneud penderfyniadau.

“Fe fydd penderfyniadau arwyddocaol yn ein hwynebu wrth i ni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu addysg ym Mhowys sy’n cynnwys cyfran uchel o ysgolion bychain yn y sir, niferoedd disgyblion sy’n gostwng a nifer uchel o leoedd dros ben.

‘Diwallu gofynion y cwricwlwm newydd’

Mae’n mynnu pe bai’r ysgol hon yn cau y byddai disgyblion mewn sefyllfa well i “ddiwallu gofynion y cwricwlwm” gan gynnig “ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol”.

“Fe fyddwn yn dechrau ymgynghoriad ffurfiol yn awr ar y cynnig hwn ym mis Medi ac fe fydd hi’n bwysig fod yr holl randdeiliaid yn cyflwyno eu safbwyntiau i ni,” meddai.

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi’r rhybudd statudol ym mis Medi.

Bydd yna ‘Gyfnod Gwrthwynebu’ o 28 diwrnod i’r sawl sy’n gwrthwynebu i roi gwybod i’r Cyngor.

Bydd adroddiad pellach sy’n nodi unrhyw wrthwynebiadau sydd wedi’u derbyn gan y Cyngor wedyn yn cael ei ystyried gan y Cabinet, gan ddod â’r broses ymgynghori i ben.