Mae dyn 44 oed o Gwmbrân wedi ei gyhuddo o ddwyn o ddwy siop fetio Betfred wahanol ym Mhont-y-pŵl.

Fe gaiff y dyn ei gadw yn y ddalfa dros nos a bydd o flaen ei well yn Llys Ynadon Casnewydd yfory.

Ond mae Heddlu Gwent yn parhau i holi am fwy o wybodaeth mewn perthynas â lladradau yn Osborne Road, Pont-y-pwl am 9.20 ar nos Sul, Tachwedd 8. Mae ymholiadau i ganfod ail unigolyn fu’n ymwneud â’r lladrad yn parhau.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod: 484 08/11/15.