Mae ysgolion, mudiadau a sefydliadau ar hyd a lled y wlad wedi bod yn paratoi i ddathlu diwrnod Plant Mewn Angen heddiw a chodi arian ar gyfer y noson flynyddol fawr.
Bydd y sioe deledu yn cael ei darlledu heno ar BBC One, gyda’r cymysgedd arferol o heriau selebs, sgetsys doniol, perfformiadau arbennig a chip ar ble mae’r arian elusen i gyd yn mynd.
Fodd bynnag, fe fydd y noson yn digwydd heb Syr Terry Wogan yn cyflwyno am y tro cyntaf ers 1980, a hynny am bod y darlledwr 77 oed wedi cael cyngor meddygol i beidio â chymryd rhan eleni.
Yn ogystal â’r difyrrwch ar y sgrîn fodd bynnag, mae pobl ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cynnal digwyddiadau amrywiol i geisio codi rhywfaint o geiniogau ychwanegol er mwyn cefnogi gwaith yr elusennau plant.
Dyma i chi gip o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar hyd a lled Cymru’r wythnos hon ar gyfer Plant Mewn Angen, gan gynnwys ymddangosiad gan gyflwynydd Radio Cymru ‘Tommo’ – ac os oes gennych chi ragor i’w rhannu â ni, cysylltwch!
Diwrnod Plant mewn Angen Ysgol y Graig – pawb wedi gwisgo fel 'arwr' #plantmewnangen pic.twitter.com/ltjS3fDPsu
— Ysgol y Graig Bl3RGP (@graigbl3rhgp) November 13, 2015
Plant Derbyn Miss Williams yn dathlu Plant Mewn Angen. Reception-Miss Williams celebrating Children in Need. pic.twitter.com/acZDVMRnm5
— Tirdeunaw (@Tirdeunaw) November 13, 2015
Dosbarth Derbyn Mrs Davies yn dathlu Plant Mewn Angen. Mrs Davies Reception class celebrating Children in Need. pic.twitter.com/2Ex0gtsyGa
— Tirdeunaw (@Tirdeunaw) November 13, 2015
Cacenni bendigedig!!! Delicious cakes!!! #pudsey #planmewnangen #childreninneed pic.twitter.com/B70ubTzASR
— Ysgol Llanbedrog (@ysgolllanbedrog) November 13, 2015
Mae @TOMMORADIO ar daith heddi ar @BBCRadioCymru ar gyfer @BBCCiN – gan ddechre yn Ysgol Bro Ingli, Trefdraeth! pic.twitter.com/42akcNFPch
— Terwyn Davies (@terwyndavies) November 13, 2015
HEDDIW
Plant Mewn Angen 2015 Canolfan Hamdden Y Rhyl
Cystadleuaeth yr Hyfforddwyr yn erbyn yr Aelodau
9.00am-8.00pm pic.twitter.com/nYqHoF9yFq
— Hamdden Sir Ddinbych (@Hsirddinbych) November 13, 2015
Plant Mewn Angen 2015! pic.twitter.com/z1VMcAA35r
— Ysgol Ffwrnes (@YsgolFfwrnes) November 13, 2015
Archarwyr yng Nghoed y Gof i gefnogi Plant Mewn Angen/Superheroes in Coed y Gof to support Children in Need pic.twitter.com/6IyRivdQQt
— Coed-Y-Gof (@CoedYGof) November 13, 2015
Gwisg ffansi ar gyfer plant mewn angen! https://t.co/cXFS1G9OHF #CiN
— Ysgol y Creuddyn (@ysgolycreuddyn) November 13, 2015
Blwyddyn 1 yn barod i ddathlu Diwrnod plant mewn angen! pic.twitter.com/8FKMjdscuR
— Cyfnod Sylfaen (@CSYGGBryniago) November 13, 2015