Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod nhw’n credu mai gweddillion dyn Pwylaidd sydd wedi’u canfod mewn eiddo yn Felinfoel, Llanelli.
Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn swyddogol ar hyn o bryd.
Mae swyddogion yr heddlu wedi bod yn holi’r gymuned Bwylaidd yn y dref fel rhan o’u hymholiadau.
Fe ddechreuodd ymchwiliad i lofruddiaeth y dyn ddydd Mercher, 11 Tachwedd yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad yn Pleasant View, Felinfoel.
Mae dau ddyn a dynes yn cael eu cadw yn y ddalfa.