Canolfan siopa Friars Walk, Casnewydd
Bydd canolfan siopa gwerth £90 miliwn yn agor ei drysau am y tro cyntaf yng nghanol Casnewydd bore ma.

Cafodd canolfan siopa Friars Walk ganiatâd cynllunio yn 2012 ac mae wedi creu mwy na 1,200 o swyddi.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Bright y bydd y ganolfan yn dod â manteision parhaol i’r ddinas a bod Casnewydd wedi disgwyl am gynllun o’r fath ers 40 mlynedd.

‘Rhyfeddol’

Meddai’r Cynghorydd Bob Bright: “Mewn llai na dwy flynedd, rydym wedi gweld safle diffaith yn datblygu i fod yn ganolfan siopa ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae’n gwbl ryfeddol bod cymaint wedi cael ei wneud mewn amser mor fyr o amser ac mae’n deyrnged i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyrraedd y pwynt hwn.”

Mae 85% o unedau’r ganolfan eisoes yn llawn, meddai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Bright: “Mae Casnewydd wedi bod yn disgwyl am gynllun fel hwn am 40 mlynedd ac o’r diwedd, mae e wedi digwydd.

“Rwy’n siŵr y bydd pobl yn heidio i ganol y ddinas i siopa yn y siopau mawr a’r rhai annibynnol yn Rhodfa’r Brodyr ac yng nghanol y ddinas yn ehangach.”