Mae dyn 75 mlwydd oed wedi marw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a char yng Nghaerdydd bnawn ddoe.

Digwyddodd y ddamwain ar gyffordd A4054 yn Ffordd Parc a Lon-y-Celyn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd am 4.10yp bnawn dydd Mercher, 11 Tachwedd.

Cafodd Terrence Morgan, 75, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac er nad oedd unrhyw bryderon am ei gyflwr bryd hynny, bu farw’n ddiweddarach.

Mae dynes a oedd yn gyrru’r car Daihatsu Charade yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 1500419171.