Andrew R T Davies
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw i greu ‘cronfa ganser’ i Gymru er mwyn creu gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol.

Fe fydd arweinydd y blaid, Andrew R T Davies a’i llefarydd iechyd, Darren Millar yn ymweld ag uned symudol cymorth canser Tenovus yng Nghwmbrân heddiw a nod y Ceidwadwyr yw creu rhai tebyg ledled Cymru.

Y bwriad yw lleihau neu ddiddymu teithiau hir i gleifion sy’n gorfod cael triniaeth chemotherapi ac mae’r Ceidwadwyr wedi rhoi addewid i fuddsoddi £7.5 miliwn i’r cynllun dros y pum mlynedd nesaf os ydyn nhw’n dod i rym yn etholiadau’r Cynulliad.

Rhai o nodau eraill y gronfa yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael cyffuriau canser modern, sefydlu ymgyrch gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser a lleihau’r targed o gyfeirio a rhoi diagnosis i bobl o fewn 28 diwrnod erbyn 2020.

Bydd y Ceidwadwyr hefyd yn penodi ‘hyrwyddwr’ i gleifion canser er mwyn “dwyn y llywodraeth a byrddau iechyd i gyfrif” ar gyfer cyflawni cynlluniau triniaeth canser cenedlaethol a lleol.

Y ‘rhestrau aros hiraf’ yn y DU

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, y rhestrau aros yng Nghymru ar gyfer profion diagnosis yw’r rhai hiraf yn y Deyrnas Unedig.

“Byddai’r gronfa hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael triniaeth ganser yng Nghymru a bydd gwaith yr uned gymorth rydym yn ymweld â hi heddiw yn chwarae rhan hollbwysig yn hynny,” meddai Darren Millar AC.

“P’un ai yw’n gyffuriau modern, triniaethau arloesol eraill neu ddiagnosis a gwasanaeth cyflym, byddai llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn cyflwyno newid yn syth.”

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, wedi bod yn feirniadol o’r syniad o greu Cronfa Cyffuriau Canser yng Nghymru gan ddweud fod y system “yn methu” yn Lloegr.