Mae pryder am ddyfodol tri o swyddfeydd trethi yng Nghymru a allai arwain at gannoedd o swyddi yn cael eu colli.

Meddai Plaid Cymru eu bod nhw ar ddeall fod swyddfeydd yr adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn Abertawe, Wrecsam a Phorthmadog i gyd yn wynebu cael eu cau gyda’r gwasanaeth yn cael ei ganoli yng Nghaerdydd.

Mae HMRC wedi dweud y bydd yn rhoi gwybod i’w staff am ei dyfodol heddiw.

Mae swyddfeydd treth y Llywodraeth ar y tri safle ar hyn o bryd yn cyflogi bron i 700 o staff – tua 300 yn Abertawe, 350 yn Wrecsam ac 20 o staff canolfan alw Gymraeg y swyddfa dreth ym Mhorthmadog.

‘Ergyd ddifrifol i economïau’r ardaloedd’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi, Rhun ap Iorwerth AC, fod yn rhaid i Lywodraeth y DU roi eglurhad ar frys os ydyn nhw’n bwriadu bwrw ‘mlaen â’r cynlluniau i gau’r swyddfeydd.

“Byddai cau swyddfeydd Cyllid a Thollau EM yn ergyd fawr i economi Cymru ac yn arbennig i’r cannoedd o weithwyr a theuluoedd a fyddai’n cael eu heffeithio yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU yn rhoi eglurhad ar frys os bydd cau hyn yn digwydd.

“Mae Llywodraethau olynol y DU dros y degawd diwethaf wedi bod yn benderfynol o gau swyddfeydd treth a byddai’r cau diweddaraf yn dangos methiant llwyr y Llywodraeth hon i ddeall Cymru.

“Mae cannoedd o bobl yn gweithio yn y swyddfeydd yn Wrecsam, Porthmadog ac Abertawe a byddai’n afrealistig ac yn anghynaladwy i ddisgwyl i bob un ohonynt symud i Gaerdydd – byddai hyn yn ergyd ddifrifol iawn i economïau’r ardaloedd hyn ac o Gymru yn ei chyfanrwydd.”