Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal heno i drafod dyfodol yr uned famolaeth yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn pryderon y gallai’r gwasanaethau yno cael eu his-raddio.
Mae pobl leol yn pryderu y gallai’r uned golli ei meddygon, gan wneud i famau deithio hyd at ‘ddwy awr’ i’r ysbyty agosaf arall os bydd angen sylw doctor arnyn nhw.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnal arolwg o’r ddarpariaeth tymor hir ar draws gwasanaethau mamolaeth y gogledd ar hyn o bryd.
Arbenigwyr o Goleg Brenhinol yr Obstetregwyr a’r Gynaecolegwyr fydd yn edrych ar yr hyn sy’n ‘gynaliadwy’, gan gyflwyno eu hargymhellion i’r Bwrdd cyn y Nadolig.
Mae’r uned yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn un o dair yn y Gogledd, gyda’r lleill yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Mae’r Bwrdd Iechyd eisoes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer israddio un adran famolaeth yn y gogledd dros dro, a’r opsiwn yr oedd yn ei ffafrio oedd Ysbyty Glan Clwyd, er nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto.
‘Annerbyniol’
Ond mae pobl Bangor a’r cyffiniau yn poeni mai’r opsiwn tymor hir fydd is-raddio’r uned famolaeth yn Ysbyty Gwynedd am fod “diffyg recriwtio” meddygon ac “orddibyniaeth” ar staff locwm yn gorfodi’r Bwrdd i docio’r unedau sydd â meddygon o dair i ddwy.
“R’yn ni eisiau datgan yn glir o’r gogledd-orllewin nad yw’n dderbyniol o gwbl i israddio’r gwasanaethau ym Mangor,” meddai’r cynghorydd Siân Gwenllian, a fydd yn cadeirio’r cyfarfod heno.
“Dyw hi ddim yn dderbyniol i hyd yn oed feddwl am dynnu doctoriaid o uned famolaeth Ysbyty Gwynedd oherwydd byddai hynna’n golygu bod tua thri chwarter y merched sy’n byw o’r gorllewin o Fangor yn gorfod teithio awr neu fwy i gael gwasanaeth mamolaeth efo doctor.”
‘Effaith bellgyrhaeddol’
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, mae ‘na broblem recriwtio doctoriaid a dywedodd Siân Gwenllian, bod “angen cynllun tymor hir ar gyfer cynllunio’r math o weithlu sydd ei angen ar gyfer y dyfodol.”
“Yn anffodus dydw i ddim yn meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynllunio ymlaen ar gyfer hynny,” meddai wrth golwg360.
Ac roedd hefyd yn poeni y gallai israddio’r uned famolaeth arwain at israddio gwasanaethau eraill hefyd: “Unwaith ‘da chi’n colli gwasanaeth doctoriaid o’r uned famolaeth, mae’r gwasanaethau eraill o gwmpas hynny’n cael eu heffeithio hefyd.
“Mae ‘na wanhau yn gallu digwydd i wasanaethau plant, i lawdriniaethau ac i’r uned ddamweiniau. Felly gall tanseilio’r uned famolaeth gael effaith bellgyrhaeddol ac yn y diwedd arwain at ostwng statws Ysbyty Gwynedd.
“Fy mhryder i ydy bod gwleidyddiaeth yn dod i mewn i’r darlun yn y gogledd. Hynny yw, mae Llafur a’r Ceidwadwyr yn brwydro am seddi pwysig yn ochrau Glan Clwyd ac rydan ni’n cael ein hanghofio yn y pen yma felly.”
‘Ystyried anghenion daearyddol ac ieithyddol’
“Hoffem roi sicrwydd i drigolion lleol bod unrhyw newidiadau posibl yn cael eu hystyried a’u bod yn rhai dros dro yn unig,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Bydd Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a’r Gynaecolegwyr yn cynorthwyo’r Bwrdd wrth ei gynghori ar y sefyllfa yn y tymor hir. Os bydd ei gyngor yn awgrymu’r angen am newid yn y tymor hir, bydd angen i’r Bwrdd Iechyd ail-ymgynghori â chymunedau lleol am y cynlluniau tymor hir.
“Byddai angen i unrhyw newidiadau sy’n cael eu cynnig ystyried ffactorau fel anghenion daearyddol, ieithyddol ac anghenion iechyd y boblogaeth yng Ngogledd Cymru.”
Cyfarfod ‘i bawb sy’n poeni’
Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 7yh heno (nos Iau, 12 Tachwedd) yng Nghlwb Rygbi Bangor yng nghwmni’r arbenigwyr iechyd, Peter Tivy Jones, cyn-gynaecolegydd yn Ysbyty Gwynedd a Huw Thomas, cyn-brif weithredwr Awdurdod Iechyd Gwynedd.
“Croeso i bawb sy’n poeni am ddyfodol Ysbyty Gwynedd,” yw neges Siân Gwenllian.