George Osborne
Mae gwleidyddion Llafur wedi galw ar y Canghellor George Osborne i gynnwys gogledd Cymru fel rhan o’i gynllun i greu ‘Pwerdy’r Gogledd’ i gryfhau economi rhannau o Loegr.

Dywedodd grŵp o ASau, ACau ac ymgeiswyr y blaid  eu bod wedi galw ar lywodraeth San Steffan i gryfhau’r cysylltiadau busnes rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Yn ôl Llafur mae cynlluniau’r llywodraeth Geidwadol ar hyn o bryd yn debygol o danseilio’r berthynas rhwng y ddwy ardal a gwneud iddyn nhw gystadlu â’i gilydd yn hytrach na chydweithio.

Bwriad cynllun ‘Pwerdy’r Gogledd’ yn ôl llywodraeth San Steffan yw cryfhau economi ardaloedd yng Ngogledd Lloegr, gan gynnwys datganoli pwerau i rai dinasoedd.

‘Cydweithio nid cystadlu’

Mewn datganiad  ar y cyd mynnodd 14 o wleidyddion Llafur, sydd i gyd o ogledd Cymru, bod angen i fusnesau sgiliau uchel yr ardal allu bod yn rhan o’r un fenter â rhai yn Lloegr.

“Mae ein cysylltiadau ni â Gogledd Orllewin Lloegr yn hanfodol i’n heconomi, ac mae cynlluniau’r Torïaid am ‘bleidleisiau Saesneg dros ddeddfau Saesneg’ (EVEL) yn tanseilio llwyddiant posib y gogledd  wrth gyfyngu ar allu Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin i weithio â’i gilydd,” medden nhw.

Ychwanegodd y gwleidyddion Llafur bod Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn anghywir i awgrymu mai cystadlu â gogledd orllewin Lloegr ddylai fod nod gogledd Cymru.

“Pan mae Ysgrifennydd Cymru yn siarad am Bwerdy’r Gogledd fel cystadleuydd, mae’n camddeall sut mae’n heconomi ni’n gweithio,” meddai’r datganiad.

“Ddylai Gogledd Cymru ddim bod yn cystadlu â llefydd fel Manceinion a Lerpwl, fe ddylen ni fod yn gweithio gyda’n gilydd. Pam cael cystadleuaeth pan allwch chi gael cydweithrediad?”

Galwadau

Roedd y gwleidyddion a arwyddodd y datganiad yn cynnwys yr Aelodau Cynulliad Ann Jones, Carl Sargeant, Lesley Griffiths, Ken Skates a Sandy Mewies, yr Aelodau Seneddol Albert Owen, David Hanson, Mark Tami, Ian Lucas a Susan Elan Jones, a’r ymgeiswyr Cynulliad Sion Jones, Mike Priestley, Jo Thomas a Hannah Blythyn.

Mynnodd yr 14 fod angen i David Cameron a’i lywodraeth fwrw ati i wireddu pum addewid am economi gogledd Cymru, gan gynnwys “ei chysylltu’n llawn â chynllun Pwerdy’r Gogledd”.

Roedd galwad hefyd am drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe, a gwella’r cysylltiad trên â dinas Lerpwl, y llwybr rhwng Wrecsam a Bidston, a meysydd awyr Lerpwl a Manceinion.

“Rydyn ni wedi clywed beth mae llywodraeth Prydain eisiau ei wneud ar gyfer Gogledd Orllewin Lloegr; nawr mae’n bryd iddyn nhw gamu ymlaen pan mae’n dod at faterion yn ymwneud â Gogledd Cymru sydd heb eu datganoli,” ychwanegodd y gwleidyddion Llafur.