Mae streic 48 awr gan yrwyr Trenau Arriva Cymru a oedd i ddechrau am hanner nos, wedi cael ei ohirio.

Mae’n dilyn trafodaethau munud olaf rhwng y cwmni a swyddogion o undeb RMT ac Aslef.

Roedd y streic yn ymwneud ag anghydfod ynglŷn â thâl ac amodau gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RMT: “Yn dilyn cynnydd pwysig mewn trafodaethau munud olaf gydag RMT ac Aslef ac ar ôl ystyriaeth gofalus gan weithgor yr undeb, rydym wedi cytuno i ohirio’r streic a oedd i ddechrau am hanner nos, er mwyn caniatáu rhagor o drafodaethau.

“Fe fydd ein haelodau yn gweithio yn ôl yr arfer.”

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod yn bwriadu cynnal gwasanaeth arferol ar holl drenau Arriva Cymru ddydd Iau a dydd Gwener, ond mae wedi rhybuddio y gallai un neu ddau wasanaeth gael eu cwtogi oherwydd paratoadau a wnaed ar gyfer y streic.

Fe fyddai’r streic wedi amharu’n sylweddol ar wasanaethau dros y deuddydd nesaf, gan gynnwys cefnogwyr Cymru fydd yn teithio i Gaerdydd nos Wener i wylio’r gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd.