Michael Coleman
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r dyn a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Caerdydd ddydd Llun diwethaf.
Roedd y cyn-filwr Michael Coleman, yn 50 oed ac yn dod o Fetws, ger Rhydaman.
Bu farw pan wnaeth y craen roedd yn ei yrru wrthdaro â thancer a Citroen Picasso ar y draffordd ar 2 Tachwedd.
Cafodd dyn 46 oed a oedd yn gyrru’r tancer, ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Teyrnged
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu mewn datganiad: “Ar 2 Tachwedd, bu farw Michael Coleman, partner annwyl Wendy. Roedd yn bleser cael Mike yn eich bywyd ac mae’n gadael mam sydd wedi torri ei chalon, ei blant hyfryd, ei lysblant, ei frodyr, chwiorydd, wyrion, nithoedd a neiaint.”
Roedd wedi gwasanaethu gyda’r Peirianwyr Brenhinol am 22 o flynyddoedd.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad neu’r ffordd yr oedd gyrrwr y tancer HGV Mercedes yn gyrru cyn y digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 a dyfynnu’r rhif 1500407145.