Meri Huws, Comsiynydd y Gymraeg
Mae golwg360 ar ddeall bod nifer o gynghorau Cymru yn ystyried herio safonau iaith Comisiynydd y Gymraeg sy’n dod i rym ar 30 Mawrth y flwyddyn nesaf.
Mae sawl cyngor yn dal i ystyried y safonau a fydd yn ofynnol, fel cynnig gwasanaeth Cymraeg ar y ffôn, a chynnig hyfforddiant i staff yn Gymraeg.
Mae’n debygol y bydd cynghorau Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Torfaen, Sir Fynwy, Caerffili ac Abertawe ymhlith y rhai sydd am apelio yn erbyn rhai o’r safonau iaith.
Fe wnaeth Cyngor Wrecsam gadarnhau ddoe y byddan nhw’n herio 10 o’r safonau iaith.
Ac mae Cyngor Caerffili wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn debygol o herio o leiaf 6 o’r safonau, gydag Abertawe hefyd yn cadarnhau y bydd ‘na “rhyw fath o apêl” yn eu herbyn.
‘Afresymol’
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau y byddan nhw’n herio “rhai” o’r safonau, er ei fod yn cefnogi “y rhan fwyaf ohonyn nhw.”
Dywedodd Karen Armstrong, Pennaeth Polisi, Perfformiad a Phartneriaeth y Cyngor, mai amseru, capasiti a phroblemau ariannol yw’r rhwystr mwyaf iddyn nhw, gan ddweud bod rhai o’r safonau yn “afresymol”.
“Byddwn yn herio’r dyletswydd o weithio’n fewnol (drwy’r Gymraeg) a rhoi cyhoeddiadau Cymraeg yn gyntaf gan y gallai hyn roi iechyd a diogelwch mewn perygl,” meddai.
“Os bydd argyfwng a bod rhaid gwagio adeilad, gallai (cyhoeddiadau’n Gymraeg yn gyntaf) roi iechyd a diogelwch mewn perygl .”
‘Heriol iawn’
Fe wnaeth Cyngor Sir Fynwy ddweud ei fod yn “mynd trwy’r safonau ar hyn o bryd ond bod rhai ohonyn nhw’n heriol iawn”, ac nad oedd yn sicr eto os oedden nhw am apelio yn eu herbyn neu ofyn am estyniad.
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin nad oedden nhw’n “barod i wneud datganiad” eto, gan “nad oes penderfyniad corfforaethol” wedi cael ei wneud, ond daeth cadarnhad y bydd y cyngor yn gwneud y penderfyniad o fewn y mis nesaf.
Fe ddywedodd Cyngor Torfaen hefyd ei fod yn ystyried gofynion y Comisiynydd ac nad oedd penderfyniad i apelio neu fel arall wedi’i wneud hyd yn hyn.
Yr unig ddwy sir oedd wedi cadarnhau wrth golwg360 nad oedden nhw’n ystyried herio’r safonau oedd Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy.
Does dim dyddiad cau penodedig ar gyfer herio’r safonau, gallai’r cynghorau wneud hynny hyd at ddiwrnod cyn eu cyflwyno ar 30 Mawrth, ac ar gyfer y rhai lle mae disgwyl i’w cyflawni ymhen blwyddyn, gallai’r cynghorau benderfynu eu herio o fewn y flwyddyn honno.
Dryswch amcangyfri’ costau’r safonau
Mae gwahaniaeth mawr hefyd ynglŷn ag amcangyfrif pob cyngor o faint mae’r safonau yn mynd i gostio iddyn nhw.
Yn ôl dogfen Llywodraeth Cymru sy’n esbonio rheoliadau’r safonau, mae Castell-nedd Port Talbot wedi amcangyfrif y bydd y safonau’n costio o leiaf £187,000 ac mae Sir Benfro wedi amcangyfrif y bydd mor uchel â £755,000.
Roedd Cyngor Torfaen yn gweld y byddai’r hawliau iaith yn costio £450,000, a Sir y Fflint yn amcangyfri’ £386,000 gyda Cheredigion ond yn amcangyfrif £45,500.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd Cyngor Wrecsam ei feirniadu am orbrisio eu hamcangyfrif, wrth iddyn nhw honni y bydd yn costio £700,000 yn ychwanegol y flwyddyn i’r cyngor.
Erbyn hyn, maen nhw wedi derbyn y bydd y gost yn agosach i £250,000 ar ôl cam-ddeall faint fyddai meddalwedd gwirio iaith yn ei gostio.
Mae golwg360 yn disgwyl ymateb gan gynghorau Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr, Sir Benfro, a Chaerdydd.
Ymateb Comisiynydd y Gymraeg
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Ar 30 Medi 2015 rhoddodd Comisiynydd y Gymraeg hysbysiad cydymffurfio i 26 o sefydliadau yn manylu ar y safonau penodol y bydd hi’n ofynnol iddynt gydymffurfio â hwy ac erbyn pa bryd.
“O dan adrannau 54 a 55 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mae gan sefydliadau perthnasol yr hawl cyfreithiol i herio’r dyletswyddau a osodir arnynt mewn hysbysiad cydymffurfio. Yn dilyn dyfarniad y Comisiynydd ar yr her honno, caiff sefydliad apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd o dan adran 58 y Mesur.
“Mae gweithdrefn benodol ar gyfer derbyn ac ymdrin â heriau o’r math yma, ac mae’r holl fanylion wedi eu cyhoeddi ar wefan y Comisiynydd.
“Oherwydd natur statudol y broses, nid yw’n briodol i’r Comisiynydd wneud sylw am heriau unigol.”
Stori: Mared Ifan