Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cysylltu â chwmni McDonald’s yn dilyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i ganiatáu iddyn nhw osod arwydd digidol uniaith Saesneg tu allan i’w bwyty yng Nghaernarfon.

Mae’r Comisiynydd hefyd am ofyn i Gyngor Gwynedd am eglurhad ynghylch eu penderfyniad.

Cafodd y cais gwreiddiol i osod arwyddion newydd ar gyfer yr ardal gyrru drwodd ym McDonald’s y dref ei wrthod y llynedd, gan na fydden nhw wedi cydymffurfio â gofynion dwyieithrwydd y Cyngor.

Ond mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r cais diweddaraf, gan ddweud nad ydi’r arwydd, sy’n newid yn gyson, yn groes i bolisïau cynllunio.

“Cysylltu eto”

“Mae gennym dîm arbenigol o staff sy’n gweithio gyda busnesau i’w hannog i gynyddu defnydd o’r Gymraeg,” meddai llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg.

“O dan y ddeddfwriaeth bresennol does dim rheidrwydd arnynt i wneud hynny, ond rydym yma i gefnogi a rhoi cymorth ymarferol i fusnesau i gynyddu eu defnydd o’r iaith.

“Rydym hefyd bob amser yn awyddus i glywed gan unigolion am unrhyw brofiadau neu rwystrau maent yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

“Rydym wedi gweithio gyda McDonalds yn y gorffennol wrth iddynt gyflwyno’r Gymraeg yn eu canghennau yng Nghymru. Byddwn yn cysylltu â nhw eto ynghylch yr arwyddion hyn.

“Rydym hefyd wedi cysylltu â Chyngor Gwynedd i ofyn am eglurhad pam bod y cais wedi ei dderbyn ar ôl ei wrthod yn wreiddiol.”

Ddim yn torri polisïau cynllunio

Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd yn mynd yn groes i ddymuniadau Cyngor Tref Caernarfon, ac mae un cynghorydd sir wedi cyhuddo’r Cyngor o fod yn “ddifater, diog, a diddychymyg” yn eu penderfyniad.

“Mae cais diweddaraf y cwmni’n cynnwys amrywiaeth o arwyddion a fydd yn ddwyieithog ac un arwydd electroneg a fydd yn Saesneg, gyda gwybodaeth sy’n gallu cael ei addasu’n rheolaidd,” meddai Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd.

“Ar ôl ystyried y cais yn fanwl, a’r ffaith y gellir newid y wybodaeth ar yr un arwydd electroneg yma’n rheolaidd, penderfynodd y Gwasanaeth Cynllunio nad ydy’r cais yn torri’r polisïau cynllunio perthnasol.

“Mae’r cyngor wedi gwneud hi’n glir y byddai’n fodlon cefnogi unrhyw ymdrechion gan y cwmni i gyfieithu testun ar gyfer eu harwyddion ar gyfer y safle.”

Cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn “ddifater, diog, a diddychymyg” wrth gymeradwyo arwydd uniaith McDonald’s

“Maen nhw’n bradychu’r hyn rydyn ni wedi’i gredu ers hanner can mlynedd: y dylen ni gael arwyddion sy’n Gymraeg”