Fe fydd streic 48 awr gan weithwyr Trenau Arriva Cymru yn cael ei chynnal yr wythnos hon ar ôl i drafodaethau fethu.
Fe gyhoeddwyd heddiw y bydd aelodau o undeb yr RMT yn cerdded allan o’u gwaith ddydd Iau a dydd Gwener yn dilyn anghydfod ynglŷn â thâl ac amodau gwaith.
Mae swyddogion yr undeb wedi cyhuddo’r cwmni o fod yn amharod i gyflwyno tâl digonol er gwaetha’r ffaith bod streic wedi cael ei ohirio er mwyn caniatáu i drafodaethau gael eu cynnal.
Mae’r RMT yn galw am wella amodau gwaith er mwyn osgoi blinder ymhlith gyrwyr trenau “a gwella diogelwch ar gyfer staff a theithwyr.”