M4
Gallai cefnogaeth y cyhoedd tuag at adeiladu rhan newydd o’r M4 gynyddu os bydd Llywodraeth yn fwy “tryloyw” wrth amlinellu faint fyddai’n ei gostio.
Dyna a ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, gan alw ar y llywodraeth i dynnu’r “llen o gyfrinachedd” ynglŷn â’r cynllun i adeiladu rhan newydd o’r M4 ger Casnewydd.
Costio ‘llai na biliwn’
Daeth y galwadau yn ystod sesiwn Holi’r Prif Weinidog Carwyn Jones yr wythnos ddiwethaf ac ar ôl iddo hefyd ymddangos ar raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales.
Yn ystod y rhaglen, roedd y Prif Weinidog wedi dweud nad oedd y cynllun yn mynd i gostio “biliwn o bunnau”, ac y byddai’n “llawer is na hynny.”
Yn ôl y manylion ar wefan y llywodraeth, mae amcangyfrif y gost yn dal i fod tua £1 biliwn – ffigwr sydd wedi’i gyfrifo ar sail achos busnes y cwmni peirianneg Arup.
‘Codi’r llen o gyfrinachedd’
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew R T Davies wedi galw ar y llywodraeth i fod yn fwy agored gyda’i chynlluniau, gan ddweud y byddai mwy o gefnogaeth i’r rhan newydd o’r draffordd petai pobl yn gwybod faint fydd yn ei gostio.
“Er mwyn i’r cyhoedd allu gael dadl go iawn am ddyfodol y M4 a phroblemau trafnidiaeth o gwmpas Casnewydd, rhaid i Lywodraeth Cymru godi’r llen o gyfrinachedd dros y prosiect hwn,” meddai.
“Yn amlwg, byddai’n anodd, hyd yn oed yn annoeth, i’r Prif Weinidog ddatgelu ffigwr pendant cyn bod y broses dendro wedi digwydd. Ond, o ystyried y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn anochel yn canolbwyntio ar arian, mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod os yw e wedi gweld tystiolaeth gadarn y bydd y prosiect bellach yn costio llai.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r amcangyfrif o’r gost wedi bod yn £1 biliwn erioed, ond eu bod yn “hyderus” y gallan nhw gyflawni’r gwaith am swm llai na hynny.
“Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, byddai unrhyw drafodaeth bellach am gostau mwy manwl yn niweidio ein pwerau i drafod y pris gorau posibl â chontractwyr er mwyn cael y gwerth gorau i’r cyhoedd yng Nghymru,” meddai’r llefarydd.