Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ar frys i bryderon ynghylch effeithlonrwydd mesurau diogelwch Covid-19 ar drenau.

Daw’r alwad yn dilyn cwynion ynghylch diogelwch ar drenau Trafnidiaeth Cymru sy’n teithio ar hyd arfordir y gogledd.

Mae Hywel Williams wedi derbyn cwynion gan etholwyr sy’n disgrifio’r amodau ar y trenau rhwng Crewe a Bangor fel rhai “peryglus”.

Yn ôl adroddiadau, does dim modd cadw pellter cymdeithasol, does dim modd archebu seddi ymlaen llaw a does dim cerbydau ychwanegol i ganiatáu teithio diogel, er gwaethaf polisi Trafnidiaeth Cymru sy’n dweud y dylid cyfyngu ar nifer y teithwyr yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr aelod seneddol, mae argyfwng Covid wedi amlygu’r anghyfartaledd mewn buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru hefyd, ac mae’n galw am ddatganoli cyfrifoldeb llawn dros y rheilffyrdd i Gymru.

“Hynod bryderus”

“Rwy’n hynod bryderus o glywed adroddiadau gan etholwyr am y diffyg mesurau diogelwch Covid ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru sy’n gweithredu ar hyd prif reilffordd gogledd Cymru ac yn benodol, gwasanaethau o Crewe i Fangor yn fy etholaeth,” meddai Hywel Williams.

“Rwy’n deall gan deithwyr fod rhai gwasanaethau a ddechreuodd yn Crewe dros y penwythnos, yn llawn, heb unrhyw fodd i orfodi mesurau pellhau cymdeithasol yn iawn, gan adael teithwyr heb unrhyw ddewis arall ond eistedd ochr yn ochr a sefyll.

“Mae’r gwasanaeth enbyd hwn yn ddigon drwg o dan amgylchiadau arferol, ond mae disgwyl i deithwyr ddioddef amodau cyfyng am dros ddwy awr ar drên sydd wedi’i awyru’n wael heb fawr o bellter cymdeithasol yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, yn warthus.

“Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cydnabod fod capasiti gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus Cymru yn parhau’n gyfyngedig i ganiatáu pellhau cymdeithasol diogel, ac eto yma mae tystiolaeth o dorri’r polisi hwnnw’n uniongyrchol heb unrhyw fesurau wrth gefn i ddarparu ar gyfer galw teithwyr.

“Gyda rheilffyrdd Cymru yn derbyn 1% o fuddsoddiad llywodraeth y DU er ein bod â 11% o’r rhwydwaith, yr ateb tymor hir i wella gwasanaethau yw datganoli cyfrifoldeb llawn i lywodraeth Cymru.

“Ond yn y cyfamser, rwy’n annog Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i adolygu eu protocolau diogelwch Covid ar frys, fel y gall teithwyr deithio’n ddiogel yn unol â rheoliadau teithio’r llywodraeth.”