Mae miloedd o dwristiaid o’r Deyrnas Unedig yn ceisio gadael Portiwgal cyn i reolau cwarantîn coronafeirws newydd ddod i rym.

Mae 39 o hediadau wedi’u trefnu o Faes Awyr Faro yn yr Algarve i’r Deyrnas Unedig heddiw (dydd Llun, Mehefin 7), bron dwywaith y nifer arferol.

Rhaid i deithwyr gyrraedd y Deyrnas Unedig cyn 4yb fory (dydd Mawrth, Mehefin 8), neu fe fydd gofyn iddyn nhw hunanynysu gartref am ddeng niwrnod.

Y rheswm am hyn yw penderfyniad y llywodraeth i dynnu Portiwgal oddi ar eu rhestr werdd ar gyfer teithio.

Mae Ryanair yn codi £285 am hediad o Faro i Bournemouth heddiw, ond dim ond £17 ddydd Mercher, tra bod hediad gydag EasyJet yn costio £227 ar hyn o bryd, ond £53 ddydd Mawrth.

Mae twristiaid yn yr Algarve hefyd wedi adrodd am anawsterau wrth gael y profion cyn gadael, sy’n ofynnol gan y llywodraeth ar gyfer pobl sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Mynegodd llawer o bobol ar eu gwyliau a chwmnïau teithio ddicter pan wnaed y cyhoeddiad ar Bortiwgal ddydd Iau diwethaf, gan ei fod wedi dod dim ond 17 diwrnod ar ôl i’r gwaharddiad ar deithio ryngwladol hamdden gael ei godi.

Dywed yr Adran Drafnidiaeth fod y sefyllfa yn y wlad “yn gofyn am weithredu cyflym i ddiogelu’r enillion a wnaed wrth gyflwyno’r brechlyn”.

Dywed hefyd fod y gyfradd bositif ar gyfer profion coronafeirws ym Mhortiwgal bron â dyblu ers i’r rhestrau teithio gael eu creu bedair wythnos ynghynt.

Ychwanega’r Adran Drafnidiaeth fod 68 o achosion o’r amrywiolyn Delta wedi’u cofnodi ym Mhortiwgal.

Dengys ffigurau Profi ac Olrhain fod 200 o bobol gyrhaeddodd Portiwgal wedi’u profi rhwng Mai 6 a 19.

Profodd tri o’r bobl hynny’n bositif am Covid-19.