Mae dau ddyn yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mangor nos Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad  rhwng Seat Ibiza a Renault Megane ar yr A4087 Ffordd Caernarfon  tua 9:20yh neithiwr.

Cafodd y ddau ddyn oedd yn gyrru’r cerbydau eu torri’n rhydd gan y Gwasanaeth Tan a’u cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Bu’r ffordd ynghau tan tua 1yb bore dydd Llun.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.