Mae arweinydd tair o wrthbleidiau Cymru wedi dweud wrth Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan heddiw y gallai Mesur Drafft Cymru fel y mae, arwain at sefyllfa lle na fydd gan y Cynulliad y pŵer i greu deddfwriaethau dros y Gymraeg.

Daeth sylwadau Andrew R T Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Leanne Wood o Blaid Cymru a Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wrth leisio eu pryderon ar Fesur Drafft Cymru sy’n cael ei drafod heddiw.

Pwysleisiwyd yr angen am ‘eglurder’ ynglŷn â phwy oedd a’r grym i wneud penderfyniadau ar y mater – y Cynulliad Cenedlaethol neu Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Kirsty Williams y gallai’r mesur olygu na fyddai gan y Cynulliad y pŵer i greu deddfwriaethau ar yr iaith Gymraeg.

“Galla’i feddwl na fydd gan Gymru bŵer dros ei hiaith ei hun,” meddai.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: “Nid yw’n wir na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mwyach yn cael y pŵer i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg o dan y llain yn y Mesur.

“Ni fydd pwerau dros yr iaith Gymraeg yn cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn cael ei wneud yn glir yn y model pwerau neilltuedig newydd a gynhwysir yn y Mesur drafft.”

Galw am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad

Fe wnaeth y tri hefyd alw am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad yng Nghymru gan ddweud y byddai’n gwella’r broses o graffu ar y llywodraeth.

Fe alwodd Leanne Wood ar nifer yr Aelodau Cynulliad i gael eu cynyddu o 60 i “rywle rhwng 80 a 100 er mwyn i’r sefydliad weithio’n iawn.”

Roedd Kirsty Williams wedi dweud hefyd y byddai’n hoffi gweld nifer yr Aelodau Cynulliad yn cynyddu ond bod angen lleihau nifer yr Aelodau Seneddol.

“Byddai mwy o ACau yn craffu’n well,” meddai Andrew R T Davies wrth yr Aelodau Seneddol ar y pwyllgor.

Ond dywedodd nad oedd e’n sicr faint yn fwy oedd ei angen, a nododd fod y ffordd y mae’r mesur wedi cael ei lunio yn golygu na fyddai rhagor o arian i gyflogi ACau newydd, felly’r Cynulliad byddai’n gorfod talu’r gost ychwanegol.

Mesur Cymru yn ‘hen, gar rhydlyd’

Mae Mesur Drafft Cymru yn cael ei drafod heddiw ymysg gwleidyddion ac academyddion ym myd gwleidyddiaeth Cymru.

O dan y bil newydd, byddai mwy o bwerau ar ynni, trafnidiaeth ac etholiadau yn dod i law gwleidyddion y Cynulliad.

Er hyn, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud y gallai’r mesur wanhau pwerau’r Cynulliad yn hytrach na’u gwneud yn gryfach.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi wfftio ei sylwadau. Mae disgwyl i’r Prif Weinidog hefyd roi tystiolaeth i’r pwyllgor yn ddiweddarach heddiw.